Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, gan eich bod yn ennill pwysau ac yn cyrraedd lefel sy’n risg i’ch iechyd, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problem yn y dyfodol.
Rydych wedi dweud wrthym eich bod wedi colli pwysau nifer o weithiau o’r blaen ond eich bod wedi adennill y rhan fwyaf o’r pwysau hwnnw. Ar sail y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni, rydyn ni’n meddwl bod arnoch angen mwy o help nag y gall y wefan hon ei roi.
Dilynwch y ddolen hon i weld y gwasanaethau eraill sydd ar gael ledled Cymru a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis ynghylch eich opsiynau.