Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, gan eich bod yn ennill pwysau ac yn cyrraedd lefel sy’n risg i’ch iechyd, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problem yn y dyfodol.
Y peth cyntaf i’w wneud yw rhoi’r gorau i ennill fwy o bwysau a chadw’ch pwysau’n sefydlog am ychydig. Wedi cyrraedd y pwynt hwnnw gallwch feddwl am golli pwysau.
Er nad ydych wedi ceisio colli pwysau o ddifrif o’r blaen, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael gafael ar fwy o gymorth. Mae’r ddolen hon yn rhoi gwybodaeth am y cymorth a allai fod ar gael i chi.