Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.
Gan eich bod wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ymddangos eich bod eisoes wedi bwrw iddi. Gan eich bod wedi colli pwysau sawl gwaith o’r blaen, ac wedi rhoi’r rhan fwyaf ohono’n ôl eto, mae’n bwysig eich bod yn meddwl yn ofalus am gyrraedd eich pwysau delfrydol a chanolbwyntio ar gynnal y pwysau hwnnw.
Efallai y bydd adran CYNNAL y wefan hon yn ddefnyddiol i chi.