Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Gan fod gennych broblem iechyd tymor hir a’ch bod wedi bod yn ennill pwysau, mae’n bwysig eich bod yn gweithredu. Rydych wedi dweud wrthym eich bod wedi colli pwysau o’r blaen ond wedi rhoi’r rhan fwyaf o’r pwysau yn ôl.
Ar sail y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni, rydyn ni’n meddwl bod arnoch angen mwy o help nag y gall y wefan hon ei roi. Dilynwch y ddolen hon i weld y gwasanaethau eraill sydd ar gael ledled Cymru a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu nyrs arbenigol ynghylch eich opsiynau.