Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.

Gan fod gennych broblem iechyd tymor hir mae’n bwysig eich bod yn gweithredu, a gan eich bod wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ymddangos eich bod wedi bwrw iddi’n barod.

Os nad ydych wedi bod yn ceisio colli pwysau, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu.