Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Gan fod gennych broblem iechyd tymor hir a’ch bod wedi bod yn ennill pwysau, a gan fod eich pwysau eisoes yn risg i’ch iechyd – mae’n bwysig eich bod yn gweithredu.
Y peth cyntaf i’w wneud yw osgoi ennill fwy o bwysau a chadw’ch pwysau’n sefydlog am ychydig. Wedi cyrraedd y pwynt hwnnw gallwch feddwl am golli pwysau. Er nad ydych wedi ceisio colli pwysau o ddifrif o’r blaen, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael gafael ar fwy o gymorth. Mae’r ddolen hon yn rhoi gwybodaeth am y cymorth a allai fod ar gael i chi.