Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.

Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir ar hyn o bryd, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.

Gan eich bod wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ymddangos eich bod eisoes wedi bwrw iddi.

Rydych wedi dweud nad ydych chi wir wedi ceisio colli pwysau o’r blaen – os nad ydych chi wedi bod yn ceisio colli pwysau, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu. Efallai bod arnoch angen mwy o gymorth arbenigol. 

Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael neu siaradwch â’ch meddyg teulu neu eich nyrs practis.