Lluniwch eich dyfodol iach gyda Pwysau Iach Byw’n Iach.

Mae siwrnai rheoli pwysau pawb yn wahanol, ac felly hefyd yr atebion i gyflawni pwysau iach. Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yn gynnig unigryw wedi’i deilwra i'ch anghenion. Dewch o hyd i'ch siwrnai heddiw.

Man and a boy shopping for fruit and vegetables

Cymerwch y cam cyntaf at fywyd iachach.

A man and a boy with bowls of soup

Cyngor arbenigol gan y GIG

Mynnwch fynediad at gyngor, offer ac adnoddau arbenigol i'ch cefnogi ar eich siwrnai pwysau iach – bob cam o'r ffordd.

Lady cooking in kitchen

Colli pwysau yn gynaliadwy

Darganfyddwch gamau bach, pwysig y gallwch eu cymryd i gyflawni a chynnal pwysau iachach dros amser.

Cymorth wedi'i deilwra i chi

Darganfyddwch ffyrdd realistig o gyflawni a chynnal pwysau iachach gyda chynnwys wedi'i deilwra i'ch ffordd o fyw.

Ymunwch â'r degau o filoedd ledled Cymru sy'n defnyddio Pwysau Iach Byw’n Iach, heddiw.

"Mae hyn yn beth braf. Ar unwaith mae'n gwneud i mi feddwl yn wahanol ac yn newid fy meddylfryd."

Cwestiynau cyffredin

Dim ond 5 munud fydd yn ei gymryd i gwblhau ein hasesiad iechyd cyflym a hawdd!

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau byr i chi am eich pwysau presennol a’ch profiad blaenorol o reoli eich pwysau i’ch helpu i ddod o hyd i’r cyngor gorau i weddu i’ch anghenion. Ni chaiff yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni ei storio na’i chadw yn unman ac mae’n gwbl ddienw. 

Mae Pwysau Iach Byw’n Iach am ddim ac yn cynnig cymorth hunan-gyfeiriedig gyda chyngor wedi’i deilwra, sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl i chi lwyddo. Rydym yn cynnig canllawiau’r GIG sydd wedi’u hategu gan dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar awgrymiadau ymarferol a chyraeddadwy sy’n eich helpu i wneud newidiadau bach a phwysig i’ch bywyd bob dydd. Mae ein dull wedi’i gynllunio ar gyfer llwyddiant hirdymor, nid atebion cyflym na chanlyniadau tymor byr. Mae hyn yn eich helpu i gyflawni a chynnal pwysau iach mewn ffordd sy’n teimlo’n realistig i chi. 

Ar ôl i chi gwblhau ein hasesiad iechyd a dewis siwrnai sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion, byddwch yn cael mynediad at gyngor arbenigol gan y GIG ac amrywiaeth o adnoddau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i’ch cefnogi i gyflawni a chynnal pwysau iachach. 

Dechreuwch eich siwrnai heddiw.

Cwblhewch ein hasesiad 5-munud a dewch o hyd i'ch siwrnai, heddiw.

Dod o hyd i’ch siwrnai

Ymunwch â’r gymuned

Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn ysbrydoliaeth a ffyrdd o gadw'ch siwrnai i symud.

Dysgu mwy a Chofrestru