Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, gan eich bod yn ennill pwysau mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.
Y peth cyntaf i’w wneud yw rhoi’r gorau i ennill fwy o bwysau a chadw’ch pwysau’n sefydlog am ychydig.
Wedi cyrraedd y pwynt hwnnw gallwch feddwl am golli pwysau. Er i chi lwyddo i golli pwysau yn y tymor hir yn y gorffennol, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael gafael ar fwy o gymorth.
Mae’r ddolen hon yn rhoi gwybodaeth am y cymorth a allai fod ar gael i chi.