Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Gan fod gennych broblem iechyd tymor hir a bod eich pwysau yn uwch na’r ystod iach, mae’n bwysig eich bod yn gweithredu.
Rydych wedi dweud wrthym eich bod wedi colli pwysau nifer o weithiau o’r blaen ond wedi rhoi’r rhan fwyaf o’r pwysau yn ôl.
Ar sail y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni, rydyn ni’n meddwl bod arnoch angen mwy o help nag y gall y wefan hon ei roi.
Dilynwch y ddolen hon i weld y gwasanaethau eraill sydd ar gael ledled Cymru a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu nyrs arbenigol ynghylch eich opsiynau.