Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni.  Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.

Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.

Rydych wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n ymddangos eich bod eisoes wedi bwrw iddi. Os nad ydych wedi bod yn ceisio colli pwysau, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu. 

Efallai y gwelwch fod arnoch angen mwy o gymorth arbenigol.  Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael neu siaradwch â’ch meddyg teulu neu eich nyrs practis.