Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.
Gan eich bod wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ymddangos eich bod eisoes wedi bwrw iddi.
Gan eich bod wedi colli pwysau nifer o weithiau o’r blaen ac wedi adennill y rhan fwyaf o’r pwysau hwnnw, byddem yn argymell eich bod yn cael gafael ar fwy o help arbenigol.
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael neu siaradwch â’ch meddyg teulu neu eich nyrs practis.