Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Y flaenoriaeth i chi yw osgoi ennill rhagor o bwysau. Unwaith y bydd eich pwysau wedi bod yn sefydlog am ychydig efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi feddwl am golli rhywfaint o bwysau.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dechrau gydag adran CYNNAL y wefan hon. Mae’r adran hon yn rhoi cyngor ar sut i ddelio â’r newidiadau arferol mewn pwysau sy’n digwydd i ni gyd o bryd i’w gilydd.