Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.

Gan eich bod y tu allan i’r ystod iach, mae’n bwysig eich bod yn gweithredu, a gan eich bod wedi dweud eich bod wedi colli pwysau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ymddangos eich bod wedi bwrw iddi’n barod.

Gan eich bod wedi colli pwysau sawl gwaith o’r blaen, ac wedi rhoi’r rhan fwyaf ohono’n ôl eto – ar ôl i chi gyrraedd pwysau rydych chi’n gyfforddus ag ef, dylech ganolbwyntio ar gynnal y pwysau hwnnw.