Mae unrhyw gyngor rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Dylech bob amser ddilyn cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.
Er nad oes gennych broblem iechyd tymor hir, gan eich bod yn ennill pwysau mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd yn y dyfodol.
Y peth cyntaf i’w wneud yw peidio ag ennill mwy o bwysau a chadw’ch pwysau’n sefydlog am ychydig.
Wedi cyrraedd y pwynt hwnnw gallwch feddwl am golli pwysau.