Neidio i'r prif gynnwy

Mae llawer o’r bwyd a’r ddiod yr ydym yn ei fwyta yn cael ei fwyta gartref. O ganlyniad, gall y bwyd a’r ddiod sydd ar gael i ni gartref ddylanwadu’n fawr ar ein dewis o fwyd a chydbwysedd cyffredinol ein deiet.

 

 

 

Beth ydych chi’n ei fwyta a’i yfed gartref

Nid oes bwydydd na phrydau bwyd da neu ddrwg. Y peth allweddol yw ceisio cael  cydbwysedd ac amrywiaeth fel bod eich corff yn cael yr amrywiaeth o faetholion sydd eu hangen arno gyda’r bwyd sy’n foddhaus, diddorol a phleserus i chi hefyd.

Bydd cynllunio’ch prydau bwyd a’ch siopa bwyd yn helpu i sicrhau bod yr hyn yr ydych yn ei fwyta a’i yfed gartref yn dda i chi ac yn cyd-fynd â’ch eich trefn arferol, eich dewisiadau a’r cyfleusterau sydd gennych chi. Gall ein tudalen siopa a chynllunio prydau bwyd helpu os hoffech chi fwy o gefnogaeth i ddechrau arni.

Gall coginio prydau bwyd gartref fod yn ffordd wych o reoli’r mathau a’r amrywiaeth o fwydydd yr ydych chi’n eu bwyta, a gwneud i brydau bwyd fynd ymhellach o fewn eich cyllideb. Os ydych chi eisiau gwneud newidiadau bach, syml i’r prydau yr ydych yn eu coginio gartref, efallai y bydd y dudalen gwneud prydau bob dydd yn iachach o ddefnydd i chi.

Mae faint yr ydych chi’n ei fwyta gartref yr un mor bwysig â beth yr ydych chi’n ei fwyta. Yn aml, gallwn ni fwyta byrbrydau’n amlach nag yr ydym yn ei sylweddoli pan fydd bwyd yn hawdd ei gyrraedd gartref. Ystyriwch y byrbrydau sydd gennych chi gartref, a yw’r byrbrydau iachach yr un mor hawdd eu cyrraedd â’r byrbrydau llai iach? Efallai y byddwn ni hefyd yn bwyta dognau mwy nag sydd eu hangen arnom pan fyddwn yn coginio ac yn gweini bwyd gartref. Os ydych chi’n ei chael yn anodd cael y dognau cywir i chi, gall ein tudalen maint dognau helpu.

Sut a phryd y byddwch yn bwyta ac yfed gartref

Mae bwyd yn fwy na bwyta ar gyfer eich corff. Gall prydau bwyd fod yn amser cymdeithasol pleserus hefyd. Os ydych chi’n byw gyda theulu a ffrindiau, eisteddwch a bwytwch gyda’ch gilydd o amgylch bwrdd pan fo modd. Gall hyn wneud prydau bwyd yn achlysuron ynddynt eu hunain, lle gallwch chi arafu, sylwi a mwynhau’r hyn yr ydych chi’n ei fwyta, a threulio amser gyda’ch gilydd.

Mae eistedd wrth fwrdd i fwyta, pan fo modd, yn arfer gwych i’w feithrin os nad ydych yn gwneud hynny’n barod. Rydym ni’n llai tebygol o gael pethau yn tynnu ein sylw, a all ein helpu i fod yn fwy ymwybodol o beth a faint yr ydym yn ei fwyta. Mae osgoi cael pethau’n tynnu eich sylw wrth fwyta gartref yn bwysig oherwydd weithiau gallwn ni fwyta mwy nag yr ydym yn ei sylweddoli wrth i bethau eraill dynnu ein sylw.

Gall sefydlu trefn fwyta arferol sy'n eich siwtio chi helpu gyda bwyta byrbrydau rheolaidd ac iachach. Gall bwyta'n rheolaidd a pheidio â cholli prydau bwyd eich helpu i fod yn fwy ymwybodol o arwyddion chwant bwyd a llawnder eich corff.

 

 

 

Pa un o’r meysydd canlynol allai helpu i wella’r hyn yr ydych yn ei fwyta a’i yfed gartref?

Ewch i’r dudalen am ragor o gymorth:

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor