Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n amser meddwl am eich nodau eich hun. Os nad ydych wedi edrych ar dudalennau Gosod nodau a Chymhelliant Pwysau Iach Byw'n Iach eisoes, efallai yr hoffech chi wneud hynny yn gyntaf i’ch helpu i osod eich nodau. 

Efallai eich bod wedi colli pwysau o'r blaen ac eisiau cadw'r pwysau i ffwrdd y tro hwn. Rydym yn argymell dewis nifer bach o nodau i ganolbwyntio arnyn nhw. Gall hyn fod yn 1, 2, neu 3 nod. Atebwch y cwestiynau isod yn fan cychwyn – Cofiwch ystyried y gwerthoedd yr ydych wedi’u nodi wrth wneud!

Fy nod SMART:

  • Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl. Beth yn union ydych chi eisiau ei gyflawni?
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod. Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi ei gyrraedd?
     
  • Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o gyrraedd ond nid allan o’r golwg. Ydy’ch nod yn heriol ond yn bosibl ei gyflawni?
     
  • Perthnasol (Relevant) – Meddyliwch am eich gwerthoedd. Ydy hyn yn rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd?
     
  • Amser-gyfyngedig (Time-bound) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod. Erbyn pryd ydych chi eisiau ei gyrraedd?

Fy nodau tymor byr

Paratowch eich hun i lwyddo gyda nodau cyraeddadwy sy’n cyd-fynd yn hawdd â'ch ffordd o fyw. Efallai bydd y rhain yn helpu i roi hwb i’ch hyder a'ch cymell i barhau. Ystyriwch weithgareddau llawn hwyl sy'n addas i'ch natur gymdeithasol, e.e. mynd am dro gyda ffrindiau.

Cofiwch, dyma'ch camau bach i'ch helpu i gyrraedd eich prif nod. Cofiwch sicrhau bod y nodau hyn yn addas i chi a'ch ffordd bresennol o fyw a cheisiwch eu gwneud mor benodol â phosibl. Er enghraifft, efallai fod gennych chi galendr cymdeithasol prysur, felly gallech chi ddewis cwrdd â ffrindiau i fynd am dro 3 x wythnos neu wneud dewisiadau iachach wrth fwyta allan.

Beth allai fy rhwystro?

Ystyriwch eich nod tymor hir a'r camau byrrach yr ydych newydd eu hysgrifennu. Treuliwch ychydig o amser yn ystyried yr hyn a allai eich rhwystro.

Goresgyn rhwystrau

Nawr, ystyriwch beth allwch chi ei wneud i'ch helpu gyda'r rhwystrau hynny; a sut y gallwch chi gynnwys y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Er enghraifft, os ydych chi'n bwriadu mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol sydd â bwyd a diod, cynlluniwch ymlaen llaw i'ch helpu i wneud dewisiadau iachach neu gynllunio ar gyfer dognau llai. Gall helpu i ysgrifennu hyn:

Os bydd ____________________________ yn digwydd,
Rwy’n bwriadu ________________________________.

Bydd cael cefnogaeth gan ffrindiau a theulu yn gallu helpu hefyd. Gall siarad â nhw am eich nodau a'ch gwerthoedd eu helpu i’ch cefnogi ar eich siwrnai. Efallai y byddwch chi'n gweld yr hoffan nhw ymuno â chi yn eich newidiadau iach.

Adolygu ac adnewyddu!

Mae’n bwysig adolygu eich nodau’n rheolaidd. Gallai hyn fod yn wythnosol neu’n fisol, gan ddibynnu ar eich nodau. Gofynnwch i’ch hun, ydw i’n gwneud cynnydd? Os nad ydw i, pam ddim? Oes rhywbeth y gallwch ei newid i wneud eich nod yn fwy realistig neu'n haws ei gyflawni?

Cofiwch feddwl pam y gwnaethoch chi ddechrau ar eich siwrnai a sut yr ydych chi eisiau teimlo.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cynnal cymhelliant a dathlu llwyddiant i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor