Neidio i'r prif gynnwy

Fel arfer rydym yn llawn cymhelliant pan fyddwn ni'n dechrau rhywbeth newydd. Pan fyddwn wedi ein cymell, mae’n gwneud y gweithgaredd yr oeddem wedi'i gynllunio yn haws, boed hynny'n nofio neu’n coginio mwy o brydau bwyd gartref. Ond gall cymhelliant fod yn anodd ei gynnal ac ar ôl ychydig wythnosau, rydym weithiau'n dechrau canfod rhesymau i beidio â gwneud pethau a gall hyn ein hatal rhag cyrraedd ein nodau.

Beth sy'n fy nghymell i?

Treuliwch bum munud yn ystyried beth sy'n eich cymell chi i fod yn fwy actif yn gorfforol ac i fwyta deiet iachach ac yna gwnewch nodiadau. Efallai mai eich meddyliau cychwynnol fydd 'oherwydd fy mod i eisiau colli pwysau' neu 'oherwydd fy mod i eisiau edrych a theimlo'n well'. Yr allwedd yma yw treiddio ychydig yn ddyfnach i'ch ffordd o feddwl - ceisiwch ofyn i’ch hun pam yr ydych chi eisiau'r pethau hyn. Pam ydych chi efallai eisiau bod yn fwy actif neu eisiau deiet iachach? Ystyriwch beth sy'n bwysig i chi a beth fyddwch chi’n gwneud mwy ohono ar ôl i chi gyflawni'r pethau hynny. Er enghraifft, efallai byddwch chi eisiau bod yn fwy actif yn gorfforol er mwyn gwella eich ffitrwydd, er mwyn gallu chwarae gyda’ch plant yn amlach.

Fy ngwerthoedd

Edrychwch ar eich nodiadau. Dyma'r pethau sy'n bwysig i chi – dyma eich gwerthoedd. Efallai y byddwch chi eisiau eu hysgrifennu ar nodiadau gludiog a'u gosod o gwmpas y tŷ neu eu rhoi mewn man lle byddwch yn eu darllen bob bore. Gall cadw eich gwerthoedd mewn cof drwy gydol eich siwrnai eich helpu i gynnal eich cymhelliant a pharhau i ganolbwyntio ar gyflawni eich nodau.

Gwneud ymddygiadau iach yn arferion newydd

Er mwyn bwyta deiet iachach a bod yn fwy actif yn gorfforol, mae'n rhaid i ni newid ein hymddygiad. Pan fyddwn yn arfer ymddygiad newydd dro ar ôl tro, daw yn arferiad – rhywbeth sy'n teimlo'n haws ei wneud yn rheolaidd, ac felly rydym yn dibynnu’n llai ar gymhelliant. Mae mabwysiadu ymddygiadau newydd yn rhan o'n trefn ddyddiol yn helpu i wneud iddyn nhw gydio. Gallai hyn gynnwys bod yn actif yn gorfforol ar ddiwrnodau penodol neu ar amseroedd penodol bob wythnos, neu ysgrifennu cynllun prydau bwyd ar gyfer yr wythnos i ddod, bob nos Lun. Gall hefyd gynnwys newidiadau llai, fel llenwi poteli dŵr a'u gadael o amgylch y tŷ i'ch annog i yfed mwy o ddŵr neu osod nodyn ar eich ffôn i’ch atgoffa i fod yn actif.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Gosod nodau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor