Gall gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw ymddangos yn haws gyda'r gefnogaeth iawn o'n hamgylch. Mae'n bwysig eich bod chi'n cael y gefnogaeth yr ydych yn ei haeddu ac yn gwybod sut i ofyn amdano gan y bobl o'ch amgylch.
Ffrindiau a theulu
Efallai na fydd rhannu’ch nodau â ffrindiau a theulu agos ar frig eich rhestr o bethau i’w gwneud, ond bydd dweud wrth y bobl o'ch amgylch pa gefnogaeth sy'n gweithio orau i chi yn eu helpu i ddeall beth sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, efallai yr hoffech chi eu cefnogaeth ar ôl cinio pan fyddwch chi wedi trefnu mynd am dro, yn hytrach na'u bod nhw'n gofyn i chi a hoffech chi wylio rhywbeth ar y teledu.
Cydweithwyr
Mae'r un peth yn wir yn y gweithle, efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch cydweithwyr am gymorth amser egwyl ac amser cinio hefyd. Efallai y byddwch chi eisiau gofyn i'ch cydweithwyr beidio â chynnig teisennau a bisgedi i chi pan fydd rhywun wedi’u prynu i'w rhannu. Efallai y byddwch chi hefyd yn dymuno gofyn a hoffai cydweithiwr gerdded gyda chi yn ystod eich amser cinio.
Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
Gallwch chi siarad â'ch meddyg teulu neu nyrs practis am eich siwrnai hefyd. Gall fod yn ddefnyddiol i ystyried pa gwestiynau y mae’n bosibl y byddan nhw eu gofyn i chi, fel eich bod wedi’ch paratoi. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi am eich:
- Ffordd o fyw – gan gynnwys beth rydych yn ei fwyta a'i yfed (gan gynnwys alcohol); a pha mor actif ydych chi ac a ydych chi'n ysmygu.
- Cymhelliant – yn ymwneud â sut yr ydych yn teimlo am eich pwysau ac a oes gennych chi gymhelliant i wneud newidiadau i gefnogi colli pwysau’n iach.
- Hanes teuluol.
- Achosion posibl e.e. a ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth.
Gall eich meddyg teulu hefyd eich pwyso a mesur eich taldra er mwyn cyfrifo eich BMI (mynegai màs eich corff). Gall ofyn am brofion eraill fel archwilio lefelau glwcos eich gwaed, pwysedd gwaed a neu golesterol gwaed.
Cofiwch feddwl am unrhyw gwestiynau sydd gennych chi hefyd a gwnewch nodyn ohonyn nhw.
Grwpiau cymorth
Dylai eich meddyg teulu hefyd allu awgrymu grwpiau cymorth lleol y gallech eu mynychu. Gall mynychu grwpiau cymorth eich helpu i gwrdd â phobl sy'n mynd trwy'r un peth â chi, bydd gennych chi’r un nodau, a byddwch chi’n debygol o rannu rhai o'r un pethau sy’n eich baglu hefyd. Gall mynychu grwpiau cymorth fod yn ffordd dda o helpu i gynnal cymhelliant. Os nad ydych yn dymuno gofyn i'ch meddyg teulu, gallwch ddysgu mwy am grwpiau cymorth yma. (Linc Saesneg yn unig)
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Opsiynau ar gyfer colli pwysau i barhau â'ch siwrnai.