Da iawn! Rydych chi wedi penderfynu gwneud newidiadau pwysau iach. Rydym yn deall bod cymaint o wybodaeth am golli pwysau a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a pha opsiynau sy'n addas i chi.
Peidiwch â phoeni; gall llawer o opsiynau colli pwysau weithio i chi a’ch ffordd bresennol o fyw. Mae gwahanol bethau yn gweithio i wahanol bobl.
Hunangymorth
Mae dulliau hunangymorth effeithiol ar gyfer colli pwysau yn cynnwys:
- cefnogi’ch lles meddyliol
- gwneud newidiadau i’r bwyd a’r ddiod rydych chi’n ei fwyta a’i yfed
- bod yn actif yn gorfforol
- cryfhau cymhelliant a hyder
- defnyddio offer newid ymddygiad fel gosod nodau, hunan-fonitro, cael cymorth ac arferion positif.
Canfu ein hymchwil fod cynnwys wedi'i bersonoli yn fwy apelgar ac yn helpu i gynnal cymhelliant. Mae’n bwysig bod y newidiadau yn cyd-fynd â’ch bywyd ac y gellir eu cynnal dros amser.
Gallai eich opsiynau colli pwysau ddechrau drwy ddeall sut mae bwyd yn rhan o’ch bywyd a’ch perthnasoedd. I chi, efallai mai man cychwyn da ar eich siwrnai colli pwysau fyddai canolbwyntio ar eich lles emosiynol a sut mae hyn yn cysylltu â phwysau cymdeithasol i fwyta.
Mae cyfuno bwyta’n iachach â gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o weld gwelliannau yn eich ffitrwydd a chefnogi proses colli pwysau iach. I chi, efallai mai gosod nodau bwyd a lles yw eich blaenoriaeth. Gosodwch eich nodau i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw a’ch diddordebau.
Gwasanaethau eraill
Gallai rhai pobl elwa ar gymorth ychwanegol i golli pwysau, e.e. os oes gennych BMI (mynegai màs y corff) dros 30 a/neu gyflyrau iechyd. Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis am ragor o gymorth a chefnogaeth.
Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i gefnogi’ch siwrnai colli pwysau yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch.
Gallech hefyd edrych yn eich ardal leol am unrhyw grwpiau cefnogi a fyddai’n ddefnyddiol i chi.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael eich hun yn ôl ar ben ffordd ar ôl baglu i barhau â'ch siwrnai.