Neidio i'r prif gynnwy

Mae adegau i bob un ohonom pan fyddwn yn bwyta byrbrydau a gall bwyta ychydig o fyrbrydau drwy gydol y dydd fod yn rhan o ddeiet cytbwys iach. Gall byrbrydau roi egni i ni rhwng prydau bwyd. Mae’r math o fyrbrydau yr ydych yn eu bwyta a phryd byddwch chi’n eu bwyta yn allweddol.

Gall bwyta byrbrydau fod yn broblem os byddwch yn bwyta pan nad oes angen i chi wneud ac mae’r byrbrydau yr ydych chi’n eu bwyta yn llai iach. Efallai y byddwch yn bwyta byrbrydau pan fyddwch chi wedi diflasu neu fod eich sylw ar wneud pethau eraill, fel defnyddio’ch ffôn symudol, gweithio wrth ddesg neu wylio’r teledu. Weithiau, caiff hyn ei alw’n ‘bwyta byrbrydau’n ddifeddwl’ a gall effeithio ar eich pwysau os ydych chi’n bwyta mwy dros amser nag yr ydych yn ei sylweddoli. 

Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn bwyta byrbrydau’n ddifeddwl, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i fwyta’n fwy gofalgar:

  • Cynllunio’ch byrbrydau ar gyfer y diwrnod neu’r wythnos.
  • Cadw at amseroedd bwyd rheolaidd.
  • Yfed yn rheolaidd drwy’r dydd i aros wedi’ch hydradu.
  • Ystyried pryd yr ydych yn bwyta byrbrydau. Oes angen bwyta ar yr adeg hon?
  • Ystyried pam yr ydych yn bwyta byrbrydau - ydych chi wedi diflasu? Ydych chi’n teimlo’n drist?
  • Oes rhywbeth arall y gallwch ei wneud yn lle bwyta byrbryd?
  • Newid i fwydydd iachach pan fo  modd.
     

 

Byrbrydau iachach

Nid oes angen i chi roi’r gorau i’r bwydydd yr ydych yn mwynhau eu bwyta. Mae’n ymwneud mwy â chael y cydbwysedd yn gywir drwy fwyta mwy o fyrbrydau sy’n is mewn braster, siwgr a halen a chael byrbrydau llai iach yn llai aml.

Gall labeli bwyd goleuadau traffig eich helpu i ddewis byrbrydau iachach. Ceisiwch ddewis bwyd a diod gyda mwy o gategorïau gwyrdd ar y label, sy’n isel mewn braster, siwgr a halen a chael rhai â mwy o gategorïau coch yn llai aml.

Efallai eich bod chi hefyd yn bwyta dognau sy’n fwy o faint nag sydd ei angen arnoch. Mae labelu ar flaen y pecyn yn aml yn dangos gwybodaeth maeth fesul dogn yn lle fesul pecyn. Felly os ydych chi’n bwyta mwy na maint y dogn sydd wedi’i nodi, byddwch yn bwyta mwy nag yr ydych chi’n ei sylweddoli. Ceisiwch newid i ddognau llai pan fo modd.
 

Awgrymiadau ar gyfer byrbrydau

  • Ffrwythau neu lysiau yw’r bwydydd gorau posibl. Dewiswch amrywiaeth pan fo modd.
  • Dognau llai o’ch byrbrydau arferol, ac yn llai aml.
  • Iogwrt braster isel plaen gyda ffrwythau.
  • Popcorn plaen; ychwanegwch sbeisys fel sinamon am flas gwahanol.
  • Caws bwthyn â llai o fraster ar graceri grawn cyflawn gyda thomatos ceirios.
  • Banana wedi ei sleisio ar dost cyflawn.
  • Cramwythen gyda margarîn braster isel.
  • Ychydig o ffrwythau sych (bricyll/rhesins) gyda chnau heb halen (almonau/cnau Ffrengig).
  • Creision wedi’u pobi yn lle’u ffrio.
 
Ystyriwch y mathau o fyrbrydau yr ydych yn eu bwyta’n rheolaidd a phryd byddwch chi’n eu bwyta. Pa newidiadau allech chi eu gwneud? Gosodwch nod byrbrydau a fydd yn gweithio i chi.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor