Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw ystyr straen?

Gellir meddwl am straen fel teimladau o bwysau meddyliol neu emosiynol. Mae teimlo lefelau isel o straen dros gyfnodau byr yn gyffredin ar adegau, a gallan nhw helpu i’n cymell i wneud rhai gweithredoedd. Pan fydd straen yn para am gyfnod hir, yn ddwys iawn, neu'n ymgasglu oherwydd bod llawer o wahanol ffynonellau straen yn dod ar unwaith, gall gael effeithiau niweidiol ar ein lles meddyliol.

Mae gan bobl ffyrdd gwahanol o reoli straen. I rai, gall arwain at fwyta gormod neu ddim digon, neu ddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Gall yr ymddygiadau hyn deimlo'n ddefnyddiol yn y tymor byr ond, yn y tymor hwy, maen nhw’n arferion niweidiol a gallan nhw leihau ein gallu i ymdopi â straen mewn gwirionedd.

 

Sut ydw i'n gwybod os ydw i dan straen?

Dyma rai arwyddion posibl o straen:

  • Teimlo'n bigog neu'n flin
  • Teimlo eich bod yn boddi
  • Ymdeimlad o ofn
  • Teimlo'n orbryderus, yn nerfus neu mewn braw
  • Teimlo'n bryderus neu ar bigau'r drain
  • Teimlo'n unig neu wedi'ch esgeuluso.

Efallai y byddwch yn sylwi ar y newidiadau corfforol canlynol:

  • Trafferth cysgu
  • Trafferth anadlu’n arferol
  • Cur pen neu boen yn y cyhyrau
  • Llygaid poenus neu olwg aneglur
  • Chwysu
  • Newidiadau i batrwm y coluddyn
  • Penysgafnder
  • Poenau yn y frest a phwysedd gwaed uchel.

Ydych chi'n sylwi ar arwyddion o straen ynoch eich hun?

Weithiau, bydd pobl eraill yn sylwi ar newidiadau yn ein hymddygiad cyn i ni wneud. Ceisiwch siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo am eich arwyddion cynnar o straen. Gall hyn helpu pobl i deimlo'n gyfforddus i holi os byddwch yn dechrau dangos arwyddion o straen. Po gyntaf y gwelir yr arwyddion, yr hawsaf y gall fod i ymdrin â nhw.

Beth allaf ei wneud i ymdopi â straen?

  • Ceisiwch ddeall pa ffactorau sy'n cyfrannu ato er mwyn sicrhau eich bod yn fwy parod ar gyfer adegau pan fydd teimladau anodd yn codi.
  • Byddwch yn garedig â’ch hun. Mae ffynonellau straen yn aml yn rhai allanol na allwch chi eu rheoli o reidrwydd, ond gallwch geisio rheoli sut rydych yn ymateb iddynt.
  • Neilltuwch amser i ymlacio.
  • Neilltuwch amser ar gyfer y pethau rydych yn eu mwynhau. Boed hynny gyda phobl sy’n eich helpu i deimlo’n dda, amser ar gyfer diddordeb neu amser yn yr awyr agored, mae’r gweithgareddau hyn yn ein helpu i ymdopi â straen.
  • Ceisiwch gael digon o gwsg — mae blinder yn ei gwneud hi'n anoddach ymdopi â straen.
  • Bwytewch yn iach a gwnewch rywfaint o weithgarwch corfforol — bydd gofalu amdanoch eich hun yn gorfforol yn eich helpu gyda'ch lles meddyliol.

Dysgu mwy

Straen / Stress| Mental Health Foundation (Linc Saesneg yn unig)

Meddyliwch am eich arwyddion o straen a beth yw'r ffordd orau i chi ymdopi â straen.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor