Neidio i'r prif gynnwy

Cofiwch pam y dechreuoch chi

Mae'n bwysig cofio bod y newidiadau a wnewch chi yn rhan o'ch ffordd newydd o fyw iach ac maen nhw yma i aros. Pan fyddwn yn dechrau gwneud y newidiadau hyn am y tro cyntaf, byddwn yn aml yn teimlo’n llawn cymhelliant i barhau. Mae'n bwysig treulio amser yn ystyried eich gwerthoedd ac yn gosod nodau. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, gallwch ddarllen mwy am gymhelliant a gosod nodau ar y wefan hon.

Wrth i amser fynd heibio, gall y cymhelliant bylu. Mae'n bwysig ailedrych ar eich gwerthoedd a'ch nodau, fel y gallwch atgoffa eich hun pam y dechreuoch chi hyn yn y lle cyntaf.

Cydnabod eich cynnydd

Gall hunan-fonitro drwy ddefnyddio dyddiadur neu ffyrdd eraill o gofnodi eich bwyd, gweithgarwch, teimladau, neu bwysau eich helpu i olrhain eich cynnydd a gweld pa mor bell yr ydych wedi dod. Efallai mai eich nod yw dechrau dewis bwydydd iachach.

Gall cadw dyddiadur bwyd fod o gymorth i nodi eich arferion bwyta. Yn aml pan fyddwn yn bwyta’n iachach bydd gennym fwy o egni sy'n gwneud i ni deimlo'n well yn gyffredinol. Efallai y byddwch chi eisiau cofnodi sut yr ydych chi'n teimlo yn eich dyddiadur neu ar eich dyfais ynghyd â'r bwydydd yr ydych yn eu bwyta er mwyn gweld eich cynnydd.

Fel arall, efallai mai eich nod yw gwella eich gweithgarwch a'ch ffitrwydd. Dechreuwch drwy osod nod o 10 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, ac yna ychwanegu at hynny bob wythnos pan fyddwchh chi'n teimlo'n barod. Bydd dechrau'n fach yn eich helpu i gynnal eich arferiadau newydd a byddwch yn gweld eich cynnydd dros amser gan eich bod yn gallu gwneud mwy a all helpu i wneud i chi deimlo'n dda ac i gynnal eich cymhelliant!

Dathlwch eich llwyddiannau ar hyd y ffordd

Yn ogystal â chydnabod pa mor bell yr ydych wedi dod, gall hunan-fonitro helpu i'ch atgoffa i ddathlu eich buddugoliaethau! Mae dathlu eich llwyddiannau ar hyd y ffordd yn ffordd wych o gynnal eich cymhelliant. Os dechreuoch chi fod yn actif, er enghraifft drwy gerdded am 10 munud bob dydd a nawr rydych chi'n cerdded am 30 munud – gwnewch rywbeth i ddathlu! Pan fyddwn yn dathlu ein llwyddiannau ar hyd y ffordd, byddwn yn atgoffa ein hunain ein bod yn gallu newid a chyrraedd ein nodau. Mae'n syniad da adolygu eich nodau a threfnu ambell wobr y gallwch edrych ymlaen ati pan fyddwch chi'n gwneud cynnydd.

Dewis y wobr gywir

Gall fod yn demtasiwn i wobrwyo ein hunain gyda bwyd a diod, pan fyddwn yn ceisio gwneud dewisiadau o ran ffordd o fyw iachach ond dewis opsiynau iachach ond pleserus sydd orau.

Dyma rai syniadau isod i’ch ysbrydoli:

  • Trefnu noson ffilm gartref gyda ffrindiau
  • Cael bath swigod
  • Gofyn i ffrind i warchod eich babi er mwyn i chi allu mwynhau noson rydd
  • Trefnu i ymweld â ffrind i sgwrsio a dal i fyny
  • Gwobrwyo eich hun gyda chylchgrawn newydd neu lyfr coginio i’ch ysbrydoli gyda ryseitiau iach
  • Cael prynhawn i’ch hun; darllenwch eich llyfr neu gwyliwch eich hoff sioe deledu
  • Mwynhau podlediad gyda phaned o goffi
  • Mynd am dro mewn parc newydd 
  • Mynd am dro neu gerdded ym myd natur
  • Rhoi cynnig ar gwrs Coginio Iach gyda BBC Good Food ar-lein (Linc Saesneg yn unig)

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cynnal pwysau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor