Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae hi mor hawdd magu pwysau?

Mae llawer o resymau dros fagu pwysau ond yn aml mae’n gyfuniad o ffactorau. Gall y byd yr ydym yn byw ynddo a’n profiadau ei gwneud hi’n anoddach i gynnal pwysau iach.

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, mae mwy a mwy o bobl yn byw gyda gorbwysau neu gordewdra. Mae hyn yn amrywio o wlad i wlad ac yn anffodus, mae'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia ymysg y rhai yr effeithir arnynt fwyaf.

Cytunir yn gyffredinol bod y newidiadau hyn wedi digwydd oherwydd bod y byd yr ydym yn byw ynddo wedi newid cymaint dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn teithio mewn car, mae tuedd i ni fod mewn swyddi llai actif, sy'n golygu y gall ein bywydau fod yn llai actif. Hefyd mae mwy o amrywiaeth o fwyd a diod ar gael i ni bob amser o'r dydd, ym mhob man. Mae'r bwydydd hyn yn aml wedi’u prosesu ac yn cynnwys lefelau uchel o fraster a siwgr sy'n golygu ein bod yn bwyta mwy o fwyd a mwy o egni. Mae'r holl ffactorau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach cynnal pwysau iach.

Gall y byd o’n hamgylch gael effaith ar ba mor iach yr ydym ni a faint o ffactorau a all ddylanwadu ar ein pwysau:

 

Cydnabyddiaeth: Addaswyd o Cancer Research UK

Rydych chi wedi dewis y siwrnai Cymdeithasol fel yr un sydd debycaf i chi. I chi mae bwyd a/neu diod yn rhan bwysig o’ch bywyd gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Er enghraifft:

  • Efallai fod bwyd a diod yn ganolog i’ch bywyd bob dydd, eich bywyd cymdeithasol, neu ddathliadau.
  • Efallai eich bod yn mwynhau coginio a chael digonedd o fwyd iach.
  • Gallai eich hoffter o fwyd olygu eich bod yn bwyta dognau mwy ar y cyfan.
  • Efallai fod eich teulu wedi disgwyl i chi fwyta popeth oedd ar eich plât pan oeddech chi’n blentyn ac nad oedd hi’n gwrtais dweud ‘na’.
  • Efallai eich bod yn ystyried eich hun yn rhan o ‘deulu mawr’.

Golyga hyn efallai eich bod yn bwyta ychydig neu lawer mwy nag sydd ei angen weithiau, ac efallai nad ydych chi’n actif yn rheolaidd. Pan ydych yn actif gallech losgi’r egni ychwanegol o’r bwyd hwn. Pan fyddwch yn bwyta mwy o fwyd ac yn llai actif, bydd yr egni ychwanegol nad yw’n cael ei ddefnyddio yn cael ei storio, felly rydych yn magu pwysau.

Mae bwyd a diod yn rhan bwysig o’ch bywyd teuluol a chymdeithasol felly mae’n rhaid i’ch siwrnai a’ch nodau ystyried hyn, fel y gallwch barhau i fwynhau’r pethau yr ydych yn eu hoffi mewn ffordd iachach.

Efallai y gwelwch chi fod sefydlogi eich pwysau yn fan cychwyn da.

Dyma rai o'r rhesymau unigol dros ennill pwysau.

 

 

 

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Rheoli pwysau iach hirdymor i barhau â'ch siwrnai.

 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor