Adolygwch eich nodau a’ch gwerthoedd
Edrychwch ar y nodau SMART y gwnaethoch eu gosod i’ch hun – Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes edrychwch ar y tudalennau gosod nodau ac unrhyw nodiadau yr ydych wedi’u gwneud. Cofiwch pam y cychwynnoch chi'r siwrnai hon. Efallai oherwydd roeddech yn dymuno edrych a theimlo’n well ynoch eich hun, gwella eich hunan-barch, bod â ffordd o fyw iachach, neu i wneud bywyd yn haws. Gall teimlo bod popeth dan reolaeth a’ch bod yn gallu cyflawni hyn eich grymuso’n sylweddol.
A yw eich nodau SMART yn dal i deimlo’n berthnasol a realistig? Os ydyn nhw, daliwch ati!
Os yw eich nodau’n teimlo allan o’ch cyrraedd yn sylweddol, gallwch wneud rhai newidiadau. Er enghraifft, os ydych yn cael trafferth bwyta’r prydau newydd, newidiwch i brydau yr ydych yn eu hoffi ond bwytwch lai neu sicrhewch fod y cynhwysion yn iachach. Efallai fod cymdeithasu gyda bwyd yn bwysig i chi. Os felly, yn hytrach na rhoi’r gorau iddi, edrychwch ar y fwydlen cyn mynd allan i fwyta a chynllunio ymlaen llaw er mwyn helpu i gadw at eich nodau.
Gofynnwch i’ch hun beth sy’n eich rhwystro
Mae’n arferol wynebu rhwystrau ar y ffordd pan nad yw pethau’n mynd fel y dylen nhw o ran eich newidiadau i’ch ffordd o fyw. Ceisiwch dreulio amser yn myfyrio yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to neu farnu eich hunan yn ormodol.
Os ydych yn hunan-fonitro drwy ddefnyddio dyddiadur bwyd neu weithgarwch, gallwch ei ddefnyddio i helpu nodi beth sy’n eich rhwystro. Isod ceir awgrymiadau a allai fod o gymorth o ran rhwystrau sy’n gyffredin pan fyddwch yn newid ffordd o fyw.
‘Rwy’n cael trafferth cadw at drefn arferol’
Gall rhoi strwythur i’ch trefn arferol eich helpu i ffitio popeth i mewn i’ch wythnos heb i chi deimlo eich bod wedi eich gorlethu. Gallai neilltuo diwrnodau penodol ar gyfer gweithgarwch penodol eich helpu i ymgyfarwyddo â threfn sefydlog.
‘Rwy’n bwyta er cysur, oherwydd diflastod a phan fyddaf dan straen’
Mae deall y cysylltiad rhwng bwyd a’ch emosiynau yn bwysig. Bydd adnabod pryd a pham yr ydych yn dewis opsiynau llai iachus yn eich helpu i nodi patrymau neu sbardunau a sut i’w hosgoi yn y dyfodol.
‘Rwy’n ei chael hi’n anodd dweud na i fwyd’
Gall pwysau gan deulu a chymheiriaid fod yn anodd ei oresgyn. Gallai rhannu rhesymau dros newid eich ffordd o fyw helpu pobl sy’n agos atoch i ddeall a’ch cefnogi.
Byddwch yn garedig i’ch hun
Cofiwch y dylai’r newidiadau yr ydych chi’n eu gwneud aros gyda chi am oes, felly dylen nhw fod yn realistig ac yn bleserus i chi eu cyflawni. Drwy wneud hynny, rydych chi'n fwy tebygol o fod eisiau parhau â'ch dewisiadau o ran ffordd o fyw iach hyd yn oed pan fyddwch chi wedi cyrraedd eich nod.
Atgoffwch eich hun o’r manteision – sut y gallen nhw wella eich hunan-barch a pheri i chi deimlo’n fwy fel chi'ch hun.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Hunan-fonitro i barhau â'ch siwrnai.