Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gosod nodau, a pham mae’n bwysig i chi?

Ein nodau yw’r pethau yr hoffem eu cyflawni. Gall gosod nodau eich helpu i fod yn benodol am beth rydych am ei gyflawni. Gall gosod nodau hefyd eich galluogi i nodi beth y mae angen i chi roi’r gorau iddo, dechrau arni, neu wneud yn wahanol, a all eich helpu i gyflawni eich nodau.
 

Nodau SMART

Er mwyn helpu i wneud eich nodau yn fwy realistig a chyraeddadwy, mae’n bwysig eu gwneud yn rhai SMART. Mae nod SMART, sy’n acronym Saesneg, yn dilyn y nodweddion canlynol:

  • Penodol (Specific)– Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl.
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod.
     
  • Cyraeddadwy (Achievable)   – Dylai’ch nod fod ychydig allan o’ch cyrraedd, ond nid o'r golwg.
     
  • Perthnasol (Relevant)– Meddyliwch am eich gwerthoedd.
     
  • Amser-gyfyngedig (Timely) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod.
     

Nodau tymor byr, tymor canolig, a thymor hir

Ceisiwch osod nodau sy'n cyd-fynd â'ch ffordd bresennol o fyw, oherwydd y gall hyn roi'r cyfle gorau i chi lwyddo. Os yw mwynhau bwyd da a chymdeithasu yn bwysig i chi, gosodwch nodau penodol a realistig ar gyfer yr achlysuron hyn ac mewn ffordd sy'n eich galluogi i fwynhau bwyd da a chymdeithasu o hyd.

Meddyliwch sut y gall gosod nodau eich helpu i ymdrin â'ch heriau. Pan fyddwch yn teimlo’n flinedig, dan straen, neu wedi diflasu, gall deimlo’n anoddach ddweud na neu beidio ag ildio i demtasiwn. Gall nod sy'n gweithio i chi eich helpu i reoli'r hwyliau a'r adegau da a gwael mewn bywyd bob dydd.

Efallai y byddwch yn dymuno gosod nodau i'ch helpu i fod yn fwy gweithgar. Ffordd dda o wneud hyn yw cyfuno'r pethau yr ydych yn eu mwynhau mewn bywyd â'ch nodau pwysau iach, fel gweithgareddau gyda'ch teulu, ffrindiau neu'r bobl rydych yn gweithio gyda nhw. Mae hyn yn golygu y gall bod yn weithgar fod yn ddymunol ac yn hwyl. Yn ogystal, gall eich ffrindiau a'ch teulu eich helpu i gynnal eich cymhelliant a rhoi cymorth i'ch cadw ar y trywydd iawn.

Pan fyddwch chi wedi gwneud eich nod tymor hir yn nod SMART, gallwch ddechrau nodi nodau tymor byr. Nodau tymor byr yw'r camau llai a haws a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nod tymor hir. Er enghraifft, efallai mai eich nod SMART tymor hir yw lleihau nifer y danteithion yr ydych yn eu bwyta i ddwywaith yr wythnos. Yn yr achos hwnnw, gallai eich nodau tymor byr fod (a) cynllunio pryd i fwynhau eich danteithion, (b) ceisio bwyta dognau llai (c) prynu llai o ddanteithion wrth siopa am fwyd.

Baglu a dathlu

Wrth osod eich nodau, mae'n bwysig ystyried beth allai eich baglu. Drwy ystyried rhwystrau posibl i chi, gallwch feddwl am ffyrdd o'u goresgyn.

Cofiwch ddathlu eich llwyddiannau! Drwy wneud eich nodau’n fesuradwy, byddwch yn gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd nod tymor byr neu dymor hir.

Mae nawr yn amser gwych i ddechrau arferion newydd, iach. Gall gosod nodau cyraeddadwy eich helpu i barhau i ganolbwyntio a chynnal eich cymhelliant.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor