Pam mae bod yn actif yn bwysig?
Mae bod yn actif yn helpu eich meddwl yn ogystal â’ch corff.
Gall gwneud gweithgarwch corfforol rydych yn ei fwynhau:
• Eich helpu i deimlo’n dda
• Rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi
• Lleihau tensiwn a straen
• Gwella eich hwyliau
• Magu eich hyder
Mae'r holl bethau hyn yn cefnogi lles a gallan nhw eich helpu i gynnal eich cymhelliant wrth i chi reoli'ch pwysau.
Gall teimlo'n isel effeithio ar ein cymhelliant i fod yn actif. Gall dechrau arni fod yn anodd, ond mae’n bwysig trio — mae hyd yn oed cyfnodau byr o weithgarwch yn helpu. Os nad ydym yn weithgar, rydym yn wynebu risg o fynd yn sownd mewn cylch lle rydym yn osgoi gwneud gweithgarwch corfforol neu'r pethau rydym fel arfer yn eu mwynhau oherwydd ein bod yn teimlo'n isel. Ond gall yr osgoi hwn wneud i ni deimlo'n waeth.
Manteisio i’r eithaf ar fod yn actif
Mae ein perthnasoedd a’n cysylltiadau cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer cefnogi lles meddyliol da. Gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gyda phobl eraill fod yn ffordd dda o gysylltu ag eraill a chael cefnogaeth i'ch helpu i ymdopi â heriau pob ddydd.
Mae bod yn actif yn yr awyr agored yn cynnig hyd yn oed mwy o fanteision. Mae’n ffaith bod treulio amser ym myd natur yn diogelu lles. Pan fyddwch mewn amgylcheddau naturiol, fel parciau, coetiroedd, a thraethau, gall hefyd gynyddu'r cyfleoedd i chi symud mwy.
Gall hyd yn oed cynnydd bach mewn lefelau gweithgarwch corfforol wneud gwahaniaeth mawr i sut rydym yn teimlo. Meddyliwch am newidiadau bach y gallech chi eu gwneud; er enghraifft gallai troi cerddoriaeth ymlaen wrth i chi wneud y gwaith tŷ eich helpu i symud yn fwy, dringo’r grisiau yn lle mynd yn y lifft, neu gerdded i’r siop leol yn lle gyrru – bydd hyn o fudd i chi a’r amgylchedd.
Gall dioddef o gyflwr iechyd meddwl effeithio ar y math o weithgarwch corfforol y gallwch ei wneud. Er enghraifft, gall rhai meddyginiaethau effeithio ar eich corff a'ch lefelau egni, a gall pobl sy'n cael pyliau o banig deimlo bod diffyg anadl yn peri gofid. Gallai fod o gymorth i chi siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol rydych yn ymddiried ynddo cyn dechrau ar weithgareddau newydd.
O ble bynnag rydych yn dechrau, mae unrhyw beth y gallwch ei wneud i fod yn actif yn rheolaidd yn dda
Dewch o hyd i weithgaredd corfforol sy'n realistig i chi, a chymerwch ran mewn rhywbeth rydych yn ei fwynhau.
- Beth ydych chi'n ei fwynhau sy'n gwneud i chi symud?
- Allwch chi wneud ychydig (mwy) o funudau bob dydd?
Dysgu mwy
Ynghylch gweithgarwch corfforol - Mind (Linc Saesneg yn unig)