Efallai eich bod wedi sylwi ar eich pwysau yn cynyddu yn dilyn newidiadau yn eich bywyd. Gall hyn gynnwys swydd newydd neu newid i’ch trefniadau gweithio, dechrau teulu, newid perthynas, diagnosis iechyd, neu amser heriol llawn straen
Efallai fod y profiadau hyn wedi effeithio ar sut rydych yn bwyta a faint a’r mathau o fwydydd rydych chi’n eu bwyta. Efallai eich bod yn bwyta neu’n yfed yn fwy, gan ddewis bwydydd egni uwch.
Efallai eu bod hefyd wedi effeithio ar eich lefelau gweithgarwch, er enghraifft efallai eich bod mewn swydd lle’r ydych yn eistedd ac yn symud yn llai aml. Efallai nad ydych yn actif ar eich siwrnai i’r gwaith ac efallai eich bod yn llosgi llai o egni nag oeddech chi’n flaenorol.
Os yw eich newidiadau diweddar mewn bywyd wedi golygu bod mwy o egni yn mynd i mewn i’ch corff drwy’r bwyd a’r ddiod rydych chi’n eu bwyta, a’ch bod yn defnyddio llai o egni mewn gweithgareddau nag yr oeddech yn flaenorol, ynaa bydd yr egni ychwanegol yn cael ei storio fel braster. Yr enw ar hyn yw cydbwysedd egni.
Gall newid i’ch cydbwysedd egni arwain at fagu pwysau
Gallwch gael y cydbwysedd yn ôl drwy wneud newidiadau iachus a llosgi mwy o egni nag yr ydych yn ei fwyta a’i yfed. Ar y llaw arall, os ydych yn llai actif ac yn bwyta mwy nag sydd ei angen ar eich corff, mae’n bosibl y bydd eich pwysau yn cynyddu dros amser. Wrth gwrs, nid ydym yn sôn am y dathliad bwyd achlysurol; cydbwysedd y tymor hir sy’n bwysig.
Beth nesaf?
Gall meddwl am y ffactorau sy’n effeithio ar eich cydbwysedd egni eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at gyflawni pwysau iach.
Gofynnwch i’ch hun – Beth wnaeth newid yn fy mywyd?
Yna, ewch yn ddyfnach a gofyn:
- Sut mae’r bwyd rwy’n ei fwyta a/neu fy mhatrymau bwyta wedi newid?
- Ydy fy lefelau gweithgarwch wedi newid?
- Sut gallaf i wneud newidiadau i gael y cydbwysedd yn ôl?
Beth sy’n iawn i chi nawr?
Meddyliwch am newidiadau ffordd o fyw iachus sy’n iawn i chi eu gwneud nawr yn eich bywyd.
Cadwch nodau yn realistig ac yn bosibl eu cyrraedd.
Cofiwch y gall camau bach sy’n gweddu i’ch bywyd wneud gwahaniaeth mawr
Meddyliwch am y rhesymau a allai fod wedi arwain at fagu pwysau a gosodwch nod gweithgarwch a bwyta’n iachach sy’n iawn i chi.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Rheoli pwysau iach hirdymor i barhau â'ch siwrnai.