Neidio i'r prif gynnwy

Adolygwch eich nodau a’ch gwerthoedd

Edrychwch ar y nodau SMART y gwnaethoch eu gosod i’ch hun. Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes edrychwch ar y tudalennau gosod nodau ac unrhyw nodiadau yr ydych wedi’u gwneud. Cofiwch pam y cychwynnoch chi'r siwrnai hon. Efallai eich bod wedi magu pwysau’n raddol oherwydd newidiadau mewn bywyd ac rydych chi eisiau teimlo fel chi eich hun unwaith eto.  

A yw eich nodau CLYFAR yn dal i deimlo’n berthnasol a realistig? Os ydyn nhw, daliwch ati!

Os yw eich nodau’n teimlo allan o’ch cyrraedd yn sylweddol, gallwch wneud rhai newidiadau. Er enghraifft, os oeddech chi'n bwriadu cerdded gyda ffrind 5 diwrnod yr wythnos yn wreiddiol, ceisiwch anelu at 2 ddiwrnod yr wythnos yn lle hynny.
 

Gofynnwch i’ch hun beth sy’n eich rhwystro

Mae’n arferol wynebu rhwystrau ar y ffordd pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'n harferion bob dydd. Pan fyddwch yn wynebu rhwystr, yn hytrach na 'cheisio gwneud iawn amdano' gyda gweithgarwch corfforol gormodol neu drwy gyfyngu ar fwyd, treuliwch ychydig o amser yn myfyrio.

Os ydych yn hunan-fonitro drwy ddefnyddio dyddiadur bwyd neu weithgarwch, gallwch ddefnyddio hyn i nodi'r hyn sy’n eich rhwystro. Isod ceir awgrymiadau a allai fod o gymorth o ran rhwystrau sy’n gyffredin pan fyddwch yn newid ffordd o fyw.
 

‘Mae newidiadau er mwyn colli pwysau yn ddiflas’

Efallai nad oedd angen i chi wneud newidiadau iach ar gyfer colli pwysau cyn hyn ac efallai eich bod yn credu y gallai hyn i gyd fod yn ddiflas, cyfyngol a heriol. Serch hynny gall bwyta’n iach fod yn antur; gall flasu’n hyfryd ac nid oes rhaid iddo fod yn ddiflas! Edrychwch ar ryseitiau iachus ac arbrofwch gyda bwydydd newydd i wneud bwyta yn rhywbeth cyffrous.
 

‘Nid oes gen i ddigon o amser’

Efallai fod newid yn eich bywyd wedi cyfrannu at y cynnydd yn eich pwysau, ac efallai eich bod yn teimlo nad yw’r amser na’r egni gennych i ymdrin â hyn. Gall gwneud newidiadau bach, cyraeddadwy i’ch trefn arferol ddyddiol ei gwneud hi’n haws mabwysiadu arferiadau iachus newydd. 
 

‘Nid wyf yn teimlo unrhyw gymhelliant’

Atgoffwch eich hun o’ch nodau a’u cadw yn rhywle lle gallwch eu gweld a’u darllen yn rheolaidd. Mae ailasesu eich nodau yn barhaus yn bwysig hefyd. Gallai bod â nod clir sy’n berthnasol ar y foment honno eich helpu i barhau i ganolbwyntio.
 

Byddwch yn garedig i’ch hun

Cofiwch geisio am newid hirdymor, felly peidiwch â barnu eich hunan yn ormodol pan nad yw pethau’n mynd fel y dylen nhw. Gyda’r cymhelliant iawn, nodau clir a newidiadau bychain graddol, gallwch ddechrau teimlo yn fwy fel chi eich hun a mwynhau cydbwysedd pwysau iach unwaith eto.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Hunan-fonitro i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor