Neidio i'r prif gynnwy

Gall cyflawni pwysau iach eich helpu

Gall byw gyda phwysau iach gael effaith gadarnhaol ar eich bywyd. Efallai fod eich rhesymau dros ddymuno colli pwysau yn cynnwys teimlo'n iachach, yn ysgafnach, cael mwy o egni, symud yn well neu gysgu’n well.

Os ydych dros bwysau iach, gall colli rhwng 5% a 10% o bwysau eich corff fod yn bosibl. Gall hyn helpu i leihau eich risg o ddatblygu clefyd y galon, diabetes math 2, a rhai mathau o ganser, a gall wella eich pwysedd gwaed a’ch colesterol.
 

Sut ydw i’n cyflawni pwysau iach?

Mae rheoli eich pwysau yn broses hirdymor ac mae'n bwysig cofio nad oes ateb cyflym i hyn. Y dull gorau yw ateb sy'n gweithio i chi ac sy'n cyd-fynd â'ch trefn arferol a'ch ffordd o fyw.

Gall hunan-fonitro, er enghraifft, pwyso eich hun a chofnodi'r hyn rydych yn ei fwyta, eich lefelau gweithgarwch, a sut rydych yn teimlo, fod o gymorth i chi yn ystod eich siwrnai pwysau iach. Efallai yr hoffech gadw cofnod o'r newidiadau i'ch siâp, o amgylch eich canol, eich coesau a'ch brest, neu sut mae eich dillad yn ffitio.

Pan fyddwch yn colli pwysau, ceisiwch anelu at 1-2lbs (0.5kg-1kg) yr wythnos. Cofiwch, bydd adegau pan fyddwch yn colli llai o bwysau neu ddim o gwbl. Mae pobl sy'n colli pwysau yn araf dros gyfnod hirdymor yn fwy tebygol o reoli eu pwysau yn llwyddiannus.

Mae’r ffordd yr ydych yn colli pwysau yn bersonol i chi, felly dewiswch newidiadau sy'n gweithio i chi. Gall hyn fod beth rydych yn ei fwyta neu'n ei yfed, maint dognau neu lefelau gweithgarwch.
 

Y siwrnai i bwysau iach

Gall llawer o bethau eich rhwystro rhag colli pwysau, a gall ein bywydau cartref, gwaith neu gymdeithasol ei gwneud hi'n anoddach gwneud newidiadau iach. Felly, efallai yr hoffech ystyried pwy neu beth allai eich cefnogi ar eich siwrnai.

Cofiwch fod newidiadau pwysau hirdymor yn cymryd amser ac y bydd angen eu hymarfer. Bydd heriau bywyd bob dydd yn eich rhwystro o bryd i’w gilydd. Os byddwch yn wynebu rhwystr, ceisiwch beidio â'i ystyried yn fethiant. Mae cael eich hun yn ôl ar ben ffordd yn rhan arferol o reoli pwysau yn llwyddiannus yn y tymor hir.

Cofiwch, mae'n bosibl colli pwysau a chynnal eich pwysau gyda'r newidiadau hirdymor cywir. Ffordd dda o gynnal eich pwysau yn y tymor hir yw gosod nodau realistig a datblygu ffyrdd o reoli llithriadau.
 

 

 

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cymhelliant i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor