Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae hi mor hawdd magu pwysau?

Mae llawer o resymau dros fagu pwysau ond yn aml mae’n gyfuniad o ffactorau. Gall y byd yr ydym yn byw ynddo a’n profiadau ei gwneud hi’n anoddach i gynnal pwysau iach.

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, mae mwy a mwy o bobl yn byw gyda gorbwysau neu gordewdra. Mae hyn yn amrywio o wlad i wlad ac yn anffodus, mae'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia ymysg y rhai yr effeithir arnynt fwyaf.

Cytunir yn gyffredinol bod y newidiadau hyn wedi digwydd oherwydd bod y byd yr ydym yn byw ynddo wedi newid cymaint dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn teithio mewn car, mae tuedd i  ni fod mewn swyddi llai egnïol, sy'n golygu y gall ein bywydau fod yn llai egnïol. Hefyd mae mwy o amrywiaeth o fwyd a diod ar gael i ni bob amser o'r dydd, ym mhob man. Mae'r bwydydd hyn yn aml wedi’u prosesu ac yn cynnwys lefelau uchel o fraster a siwgr sy'n golygu ein bod yn bwyta mwy o fwyd a mwy o egni. Mae'r holl ffactorau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach cynnal pwysau iach.

Gall y byd o’n hamgylch gael effaith ar ba mor iach yr ydym ni a faint o ffactorau a all ddylanwadu ar ein pwysau:

 

Cydnabyddiaeth: Cancer Research UK

I chi, mae bywyd wedi newid dros y blynyddoedd. Gall hyn fod yn gysylltiedig â swydd newydd, cael teulu, newidiadau mewn perthnasoedd a/neu gyflyrau iechyd. Mae'r newidiadau hyn wedi dylanwadu ar eich bywyd ac efallai wedi newid beth, pryd a faint yr ydych yn ei fwyta a'i yfed yn ogystal ag effeithio ar lefelau eich gweithgarwch, er enghraifft, efallai eich bod mewn swydd lle’r ydych yn eistedd wrth ddesg ac yn symud llawer llai aml. Efallai y byddwch hefyd yn canfod bod rheoli eich pwysau wedi mynd yn anoddach wrth i chi heneiddio, neu oherwydd cyfnodau arbennig mewn bywyd (e.e. y menopos).

Mae'r newidiadau hyn i'ch bywyd yn golygu efallai y byddwch chi’n bwyta neu’n yfed mwy, yn dewis bwydydd â mwy o egni a/neu yn llai egnïol ac yn llosgi llai o egni nag o'r blaen. Mae hyn wedi golygu cynnydd graddol mewn pwysau dros y blynyddoedd diwethaf ac o’r herwydd rydych chi’n teimlo'n siomedig ac yn rhwystredig, gan nad yw'r pwysau bellach yn disgyn i ffwrdd fel yr oedd yn arfer ei wneud.

Efallai na fu angen i chi newid yr hyn yr ydych chi'n ei fwyta, ac efallai nad ydych chi'n rhywun sy'n gwneud llawer o ymarfer corff sy'n golygu y gallech fod yn poeni am y newidiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud i fynd yn ôl i’r hyn yr oeddech chi o ran pwysau. Mae angen y nodau a’r targedau iawn ar gyfer eich siwrnai a'r atebion cyffrous cywir sy'n gweithio i chi er mwyn i chi allu magu hyder i gyflawni newid.

Gyda'r newidiadau sy’n iawn i chi, gallwch fynd yn ôl i le yr oeddech chi o ran pwysau, a’i gynnal.

Dyma rai o'r rhesymau ungiol am magu pwysau.

 

 

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cydbwysedd egni i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor