Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gosod nodau, a pham mae’n bwysig i chi?

Ein nodau yw’r pethau yr hoffem eu cyflawni. Gall gosod nodau eich helpu i fod yn benodol am beth yr hoffech ei gyflawni. Gall gosod nodau hefyd eich galluogi i nodi beth y mae angen i chi roi’r gorau iddo, dechrau arni, neu wneud yn wahanol, a all eich helpu i gyflawni eich nodau.

Nodau SMART

Ffordd dda o wneud eich nodau’n gyraeddadwy ac yn realistig yw eu gwneud yn rhai SMART. Mae nod SMART, sy’n acronym Saesneg, yn dilyn y nodweddion canlynol:

  • Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl. 

  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod. 
     
  • Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o gyrraedd ond nid allan o’r golwg. 
     
  • Perthnasol (Relevant) – Meddyliwch am eich gwerthoedd. 
     
  • Amser-gyfyngedig (Time-bound) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod.

Nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir

Ceisiwch osod nodau sy'n cyd-fynd â'ch ffordd bresennol o fyw, oherwydd y gall hyn roi'r cyfle gorau i chi lwyddo. Efallai y byddwch wedi sylwi bod eich pwysau wedi cynyddu’n raddol, a bod eich arferion bwyta a lefelau gweithgarwch yn wahanol i’r hyn yr oedden nhw o’r blaen. Efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl sut a pham mae eich arferion yn wahanol i'r gorffennol, a beth fyddai'n eich helpu chi nawr i gyflawni newidiadau iach.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau?

Meddyliwch am beth sy’n bwysig i chi a beth rydych ei eisiau. Os ydych chi eisiau bod yn fwy actif, ystyriwch ble a phryd gallech chi wneud hyn a phwy allai eich cefnogi. Allech chi fynd am dro yn ystod eich egwyl ginio neu gyflawni gweithgaredd rydych ei fwynhau dros y penwythnos?

Meddyliwch sut y gall gosod nodau eich helpu i fynd i’r afael â'ch heriau. Gallai gosod nod eich helpu i addasu eich arferion bwyta neu gysgu’n well. Gall newidiadau bach dros amser eich helpu i fagu mwy o egni, mwy o hyder, a theimlo’n fwy fel eich hun.

Pan fyddwch wedi gwneud eich nod tymor hir yn nod SMART, nodwch nodau tymor byr, sy’n gamau llai a haws. Bydd nodau tymor byr yn eich helpu i gyflawni eich nod yn y tymor hir. Er enghraifft, os mai eich nod SMART tymor hir yw bwyta mwy o brydau cartref, efallai mai eich nodau tymor byr fydd coginio gartref ddwywaith yr wythnos neu brynu llai o fwydydd parod/cyfleus wrth siopa.

Baglu a dathlu

Wrth osod eich nodau, mae’n bwysig meddwl am yr heriau a’r rhwystrau y gallwch eu hwynebu. Gall hyn eich helpu i feddwl am ffyrdd i'w goresgyn.

Cofiwch ddathlu eich llwyddiannau! Drwy wneud eich nodau’n fesuradwy, byddwch yn gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd nod tymor byr neu dymor hir.

Mae nawr yn amser gwych i gychwyn arferion newydd, iach. Gall gosod nodau cyraeddadwy eich helpu i barhau i ganolbwyntio a chynnal eich cymhelliant.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor