Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw ystyr bwyta emosiynol?

Mae bwyta emosiynol yn cyfeirio at yr adegau hynny pan fyddwn yn bwyta nid oherwydd bod eisiau bwyd arnom, ond i'n helpu i ymdopi ag emosiynau anodd. Efallai y byddwn yn troi at fwyd er cysur pan fyddwn yn teimlo'n isel, dan straen neu wedi diflasu. Gall hyn arwain at arferion di-fudd, yn enwedig os mai colli pwysau neu gynnal pwysau iach yw eich nod.

Beth allaf ei wneud i leihau bwyta emosiynol?

Dewch i ddeall eich patrymau bwyta a nodi'r adegau pan fydd eich emosiynau'n eich troi at fwyd am resymau heblaw bod eisiau bwyd arnoch.

Meddyliwch am eich sbardunau 

Meddyliwch am yr adegau pan fyddwch yn troi at fwyd er cysur. A yw'n digwydd ar adeg benodol o'r dydd? Sut oeddech chi'n teimlo? Beth oedd yn digwydd o'ch cwmpas?

Ceisiwch gadw dyddiadur bwyd

Gan fyfyrio ar sut roeddech chi'n teimlo ar wahanol adegau o'r dydd a sut y gallai hynny fod wedi effeithio ar eich dewisiadau bwyd. Gall hyn helpu i nodi eich sbardunau. Pan fyddwch yn deall eich sbardunau, gallwch fod yn fwy parod ar gyfer adeg pan fyddwch yn sylwi ar y digwyddiadau neu'r teimladau hynny'n codi a bod â strategaethau eraill ar waith.

Ceisiwch wneud newidiadau bach dros amser a byddwch yn garedig â’ch hun wrth i chi addasu eich arferion

Os byddwch yn sylwi nad ydych yn gallu rhoi'r gorau i droi at fwyd fel cysur i ddechrau, ceisiwch ddewis bwydydd iach, gan osgoi bwyd sy'n uchel mewn braster, siwgr neu halen.

Dros amser, rhowch gynnig ar wahanol ffyrdd o ymdopi nes y byddwch yn dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi. Efallai y bydd cael ychydig o awyr iach neu fynd am dro bach yn helpu, neu efallai codi pensil i ysgrifennu sut rydych yn teimlo neu ddwdlan hyd yn oed.

Bydd dod o hyd i ddifyrion yn eich helpu i symud oddi wrth fwyta emosiynol ac yn cefnogi eich lles meddyliol.

Byddwch yn falch ohonoch eich hun am y newidiadau y byddwch yn eu gwneud, nid yw’n hawdd. Bydd baglu, ond bydd dychwelyd at strategaethau ymdopi eraill ar ôl i chi faglu yn helpu i feithrin yr arferion newydd hynny.

  • Ydych chi wedi ceisio cadw dyddiadur bwyd ac emosiynau?
  • Ydych chi'n gwybod beth yw eich “sbardunau” ar gyfer troi at fwyd?
  • Beth ydych chi'n mwynhau ei wneud a allai eich helpu i ymdopi ag emosiynau yn lle bwyta?

Os ydych yn poeni y gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod fod ag anhwylder bwyta, siaradwch â'ch meddyg teulu. Mae cymorth hefyd ar gael gan BEAT yma. (Linc Saesneg drwy ragosodiad allanol, mae posib cael dewis Cymraeg)

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor