Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n amser meddwl am eich nodau eich hun. Os nad ydych wedi edrych ar dudalennau gosod nodau a chymhelliant Pwysau Iach Byw'n Iach eisoes, efallai yr hoffech chi wneud hynny yn gyntaf i’ch helpu i osod eich nodau.

Efallai eich bod wedi colli pwysau o’r blaen ac eisiau cadw’r pwysau i ffwrdd y tro hwn. Efallai y byddwch chi eisiau gwneud newidiadau iach i’ch helpu i deimlo’n well, neu i wneud bywyd yn haws. Rydym yn argymell canolbwyntio ar 1, 2, neu 3 nod. Atebwch y cwestiynau isod yn fan cychwyn – Cofiwch ystyried y gwerthoedd yr ydych wedi’u nodi wrth wneud!

Fy nod SMART:

  • Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl. Beth yn union ydych chi eisiau ei gyflawni?
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod. Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi ei gyrraedd?
     
  • Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o gyrraedd ond nid allan o’r golwg. Ydy’ch nod yn heriol ond yn bosibl ei gyflawni?
     
  • Perthnasol (Relevant) – Meddyliwch am eich gwerthoedd. Ydy hyn yn rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd?
     
  • Amser-gyfyngedig (Time-bound) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod. Erbyn pryd ydych chi eisiau ei gyrraedd?

Fy nodau tymor byr

Paratowch eich hun i lwyddo gyda nodau cyraeddadwy sy’n cyd-fynd yn hawdd â'ch ffordd o fyw. Efallai bydd y rhain yn helpu i roi hwb i’ch hyder a'ch cymell i barhau. Allech chi gyfnewid pethau iachach am rai o’ch hoff fwydydd a diodydd? Allech chi geisio gwneud mwy o deithio llesol, gan adael y car am deithiau byr? Neu efallai ychwanegu gweithgaredd newydd yn lle gwylio’r teledu.

Ceisiwch eu gwneud mor benodol â phosibl. Er enghraifft byddaf yn:

  • Yfed 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd
  • Cerdded y ci ddwywaith y dydd am 30 munud
  • Cael un pryd tecawê yn unig y mis.

Beth allai fy rhwystro?

Ystyriwch eich nod tymor hir a’r camau byrrach yr ydych newydd eu hysgrifennu. Treuliwch ychydig o amser yn meddwl am yr hyn a allai eich rhwystro. Gallai enghreifftiau gynnwys diffyg amser ar gyfer arferion iach newydd.

Paratowch eich hun i lwyddo

Ystyriwch beth allwch chi ei wneud i’ch helpu gyda’r rhwystrau hynny; a sut y gallwch chi gynnwys y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Os mai’ch nod yw bod yn fwy actif yn ystod yr wythnos ond mae dod o hyd i amser yn anodd, ystyriwch sut yr ydych yn teithio i’r gwaith neu rhannwch eich sesiwn weithgarwch yn sawl sesiwn fyrrach, fel eu bod yn haws eu cynnwys.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cynnal pwysau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor