Neidio i'r prif gynnwy

Da iawn! Rydych chi wedi penderfynu gwneud newidiadau pwysau iach. Rydym yn deall bod cymaint o wybodaeth am golli pwysau a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a pha opsiynau syn addas i chi.

Peidiwch â phoeni; gall llawer o opsiynau colli pwysau weithio i chi a’ch ffordd bresennol o fyw. Mae gwahanol bethau yn gweithio i wahanol bobl.

Hunangymorth

Mae dulliau hunangymorth effeithiol ar gyfer colli pwysau yn cynnwys:

  • cefnogi’ch lles meddyliol
  • gwneud newidiadau i’r bwyd a’r ddiod rydych chi’n ei fwyta a’i yfed
  • bod yn actif yn gorfforol
  • cryfhau cymhelliant a hyder
  • defnyddio offer newid ymddygiad fel gosod nodau, hunan-fonitro, cael cymorth ac arferion positif.

Canfu ein hymchwil fod cynnwys wedi’i bersonoli yn fwy apelgar ac yn helpu i gynnal cymhelliant. Mae’n bwysig bod y newidiadau yn cyd-fynd â’ch bywyd ac y gellir eu cynnal dros amser.

I chi, gallai fod yn ddefnyddiol gosod nodau realistig sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw. Mae gosod nodau personol yn ffordd wych o ddechrau eich siwrnai a helpu i gynnal eich cymhelliant.

Mae cyfuno bwyta’n iachach â gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o weld gwelliannau yn eich ffitrwydd a chefnogi proses colli pwysau iach. I chi, efallai mai gosod nodau gweithgarwch a bwyd yw eich blaenoriaeth. Gosodwch eich nodau i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw a’ch diddordebau.

Mae cefnogaeth yn bwysig a gall eich helpu i osod nodau clir a rhoi’r offer i chi i helpu i wneud eich siwrnai yn haws ac yn fwy pleserus.

Gwasanaethau eraill

Gallai rhai pobl elwa ar gymorth ychwanegol i golli pwysau, e.e. os oes gennych BMI (mynegai màs y corff) dros 30 a/neu gyflyrau iechyd. Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis am ragor o gymorth a chefnogaeth.

Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i gefnogi’ch siwrnai colli pwysau yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael eich hun yn ôl ar ben ffordd ar ôl baglu i barhau â'ch siwrnai. 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor