Neidio i'r prif gynnwy

Efallai y bydd cynllunio prydau bwyd yn ymddangos yn anodd iawn ar y dechrau, ond nid oes rhaid iddo fod yn gymhleth. Mae'n ffordd wych o'ch helpu i sefydlu trefn arferol o fwyta'n bositif ac iach. Gall hefyd arbed yr amser a'r straen o benderfynu beth i'w fwyta'n ddyddiol drwy wneud y cyfan mewn un sesiwn syml.
 

 

 

Cynllunio prydau bwyd

Mae cynllunio prydau bwyd yn ffordd o gynllunio pa brydau y byddwch chi’n eu bwyta am y dyddiau neu'r wythnos i ddod, y bwydydd y bydd angen i chi eu prynu, a faint y byddwch chi’n ei wario. Mae'n rhan bwysig o gyllidebu ar gyfer eich siopa bwyd.

Eich cynllun prydau bwyd yw sail eich rhestr siopa, edrychwch ar yr hyn sydd gennych eisoes ar gyfer eich prydau a'r hyn y mae angen ei brynu. Defnyddiwch eich rhestr siopa i gadw at eich cynllun ac y mae angen ei brynu, ac arbedwch amser. Gall cynllunio prydau bwyd hefyd eich helpu i weld y newidiadau y gallech eu gwneud i sicrhau cydbwysedd iachach a gwneud prydau bwyd yn fwy diddorol. Gall hyn eich helpu i gyflawni a chynnal eich nodau bwyta’n iachach.

Rhai o’r pethau y gallech eu hystyried wrth wneud cynllun pryd bwyd:

  • Eich cyllideb fwyd

  • I bwy fyddwch chi’n coginio, a faint?

  • Pa mor brysur yw eich wythnos?

  • Pa ymrwymiadau sydd gennych a all effeithio ar amser coginio a pharatoi prydau bwyd? Dewiswch brydau y gellir eu cyflawni sy'n cyd-fynd â hyn.

  • Edrychwch ar y bwyd sydd gennych gartref yn barod. Ceisiwch beidio â phrynu cynhwysion ddwywaith.

 

Templed cynllunio prydau bwyd

Gallwch greu’ch cynlluniau prydau bwyd gyda'r templed cynllunio prydau bwyd hwn. Ar ôl i chi greu’ch cynllun, gallwch chi wneud rhestr siopa ar gyfer y bwyd a’r diodydd sydd eu hangen arnoch ar gyfer yr wythnos. Gallai ein tudalennau gwneud prydau bob dydd yn iachach fod yn ddefnyddiol os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer prydau bwyd arnoch chi.

Ar ôl i chi ymarfer yn ystod yr wythnosau cyntaf, byddwch chi'n dechrau gweld ei bod yn ffordd gyflym a hwylus o gynnal trefn fwyd sy'n gweithio i chi.

 

 

 

Lawrlwythwch ein cynllunwyr prydau bwyd a chynlluniwch eich prydau i’r wythnos sy’n dod:

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor