Neidio i'r prif gynnwy

Fel arfer rydym yn llawn cymhelliant pan fyddwn ni'n dechrau rhywbeth, ond gall fod yn anoddach dechrau arni pan fo'n newid newydd.

Efallai na fu’n rhaid i chi wneud newidiadau er mwyn sicrhau pwysau iach o'r blaen a gall meddwl am y manteision a pham yr ydych yn gwneud y newidiadau hyn fod yn fan cychwyn da.

Mae gweld a theimlo'r manteision yn ei gwneud yn haws i ni gyflawni'r newidiadau a/neu’r gweithgarwch yr oeddem wedi’i drefnu p'un a yw hyn yn mynd am dro bach neu goginio mwy o brydau bwyd gartref!

Ond gall fod yn anodd cynnal cymhelliant, ac ar ôl ychydig wythnosau mae’n hawdd llithro oddi ar y trywydd iawn a chanfod rhesymau sy’n ein hatal rhag cyrraedd ein nodau.

Beth sy’n eich cymell chi?

Gadewch i ni dreulio pum munud yn nodi beth sy’n eich cymell i eisiau gwneud newidiadau iach, beth sydd wedi newid sydd wedi peri i chi gyrraedd y sefyllfa hon? Pam ydych chi eisiau adennill cydbwysedd pwysau iach? Efallai mai’ch meddyliau cyntaf yw ‘Rwyf eisiau bod yn iachach, yn fwy heini neu fod yn ôl lle yr oeddwn i o’r blaen.’

Yna treiddiwch yn ddyfnach a gofyn i’ch hun, pam? Ystyriwch beth sydd wedi newid yn eich bywyd i achosi hyn. A allai fod yn newid i’ch patrymau bwyta neu a ydych chi’n ei chael hi’n anodd neilltuo amser i fod yn actif?

Gallai helpu i feddwl am ganlyniadau cadarnhaol, e.e. sut byddwch chi'n teimlo pan fyddwch chi wedi gwneud newidiadau iach, faint yn fwy o egni fydd gennych i wneud y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud gan deimlo’n fwy fel chi eich hun pan fyddwch chi'n cyrraedd eich nod. Yn weledol efallai y byddwch yn dymuno edrych a theimlo'n well yn eich dillad a dechrau teimlo fel chi'ch hun unwaith eto.

Eich gwerthoedd

Edrychwch ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ysgrifennu; dyma’r pethau sy’n bwysig i chi – dyma’ch gwerthoedd. Efallai y byddwch chi eisiau gosod nodyn atgoffa ar eich ffôn neu eu rhoi mewn man lle gallwch eu gweld bob dydd. Gall cadw eich gwerthoedd mewn cof drwy gydol eich siwrnai eich helpu i ganolbwyntio a chynnal cymhelliant. Gall gweld eich gwerthoedd bob dydd eich helpu i barhau â’ch siwrnai, cynnal cymhelliant a sicrhau nad yw eich siwrnai yn troi’n ddiflas pan welwch eich cynnydd.

Pan ddaw ymddygiadau newydd yn arferiadau

Er mwyn gwneud newidiadau iach a bwyta deiet iach a bod yn fwy actif yn gorfforol, mae’n rhaid newid o hen ymddygiad i ymddygiad newydd. Pan fyddwn yn arfer ymddygiad newydd yn ddigon aml, mae'n dod yn arferiad. Po fwyaf yr ydym yn ei wneud, yr hawsaf mae'n dod. I wneud hyn mae angen i ni fabwysiadu’r ymddygiadau newydd hyn yn rhan o'n trefn ddyddiol. Gall hyn gynnwys trefnu dyddiau ac amseroedd yn eich dyddiadur i fod yn actif yn gorfforol neu greu cynllun prydau bwyd ar gyfer yr wythnos i ddod.

Gall creu arferiadau newydd ynghylch bwyd neu weithgarwch fod yn gyffrous ac yn hwyl. Gallai fod yn ddewisiadau iachach, gwneud gweithgarwch yr ydych yn ei fwynhau a bwyta amrywiaeth o fwyd iach bob dydd. Drwy wneud newidiadau bach yn ddyddiol, gallwn rannu nodau'n ddarnau llai a’u gwneud yn llawer mwy cyraeddadwy a realistig i chi! Canolbwyntiwch ar yr wythnos nesaf, beth tybed fyddwn yn ei weld os gwnawn y newidiadau hyn? A sut byddwn yn teimlo yn sgil y manteision hyn?

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Gosod nodau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor