Neidio i'r prif gynnwy

Byth yn rhy hwyr

I’r rhan fwyaf o bobl nid yw byth yn rhy hwyr mewn bywyd i ddechrau bod yn fwy egnïol yn gorfforol, boed hynny drwy ddewis defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft neu ymuno â ffrind mewn dosbarth ymarfer corff lleol. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio os ydych chi’n anactif ar hyn o bryd i gynyddu’n raddol faint o ymarfer corff rydych chi’n ei wneud. Mae hyn yn rhoi amser i’ch corff addasu mewn ffordd ddiogel a synhwyrol. Er y bydd unrhyw ymarfer corff yn fuddiol, mae rhai pobl yn hoffi dechrau gyda 10 munud o weithgarwch a chynyddu o hynny yn raddol.

Meddyliwch am sut y gallech chi ychwanegu mwy o ymarfer corff at eich diwrnod – a chofiwch nid oes angen iddo fod yn ddewis strwythuredig wedi’i gynllunio fel chwaraeon neu ddosbarthiadau bob amser. Gallech chi gynnwys ymarfer corff yn eich diwrnod drwy:

  • Gerdded i’r ysgol a nôl gyda’ch plant neu wyrion.
  • Cario’ch siopa gartref.
  • Defnyddio’r grisiau gymaint â phosibl.
  • Garddio.
  • Symud o gwmpas y tŷ yn ystod egwyl teledu.

Rhowch gynnig ar y cwis (Linc Saesneg yn unig) isod i ddarganfod pa fath o weithgaredd sydd orau i chi.

Manteision lluosog

Er bod mantais i bob math o ymarfer corff, mae rhai mathau yn cynnig mwy o fanteision ar gyfer gwahanol bethau.

Ar gyfer oedolion hŷn, mae gweithgareddau sy’n gwella cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd yn bwysig iawn. Gall y mathau hyn o weithgareddau fel hyfforddiant gwrthiant helpu i gynnal cydbwysedd da, lleihau’r risg o gwympo, hybu hyder ac amddiffyn eich iechyd meddwl.
 

I gael iechyd cyffredinol da, ceisiwch fod yn actif yn gorfforol bob dydd.
 
Mae unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae fwy yn well byth.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor