Byth yn rhy hwyr
I’r rhan fwyaf o bobl nid yw byth yn rhy hwyr mewn bywyd i ddechrau bod yn fwy egnïol yn gorfforol, boed hynny drwy ddewis defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft neu ymuno â ffrind mewn dosbarth ymarfer corff lleol. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio os ydych chi’n anactif ar hyn o bryd i gynyddu’n raddol faint o ymarfer corff rydych chi’n ei wneud. Mae hyn yn rhoi amser i’ch corff addasu mewn ffordd ddiogel a synhwyrol. Er y bydd unrhyw ymarfer corff yn fuddiol, mae rhai pobl yn hoffi dechrau gyda 10 munud o weithgarwch a chynyddu o hynny yn raddol.
Meddyliwch am sut y gallech chi ychwanegu mwy o ymarfer corff at eich diwrnod – a chofiwch nid oes angen iddo fod yn ddewis strwythuredig wedi’i gynllunio fel chwaraeon neu ddosbarthiadau bob amser. Gallech chi gynnwys ymarfer corff yn eich diwrnod drwy:
- Gerdded i’r ysgol a nôl gyda’ch plant neu wyrion.
- Cario’ch siopa gartref.
- Defnyddio’r grisiau gymaint â phosibl.
- Garddio.
- Symud o gwmpas y tŷ yn ystod egwyl teledu.
Rhowch gynnig ar y cwis (Linc Saesneg yn unig) isod i ddarganfod pa fath o weithgaredd sydd orau i chi.

Manteision lluosog
Er bod mantais i bob math o ymarfer corff, mae rhai mathau yn cynnig mwy o fanteision ar gyfer gwahanol bethau.
Ar gyfer oedolion hŷn, mae gweithgareddau sy’n gwella cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd yn bwysig iawn. Gall y mathau hyn o weithgareddau fel hyfforddiant gwrthiant helpu i gynnal cydbwysedd da, lleihau’r risg o gwympo, hybu hyder ac amddiffyn eich iechyd meddwl.
I gael iechyd cyffredinol da, ceisiwch fod yn actif yn gorfforol bob dydd.
Mae unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae fwy yn well byth.
Gweithgarwch corfforol a chi
Mae bod yn actif yn gorfforol yn cynnig amrywiaeth enfawr o fanteision meddyliol a chorfforol. Mae’r rhain yn cynnwys hybu’ch lles cyffredinol, lleihau’r risg o dros 20 o gyflyrau iechyd a chlefydau, helpu i gynnal neu gyflawni pwysau iach a gwella llawer o agweddau cymdeithasol ar eich bywyd.
Mae gweithgarwch corfforol yn fwy na chwaraeon neu fynd i’r gampfa. Gall fod yn bethau fel garddio, cerdded i’r siopau neu fynd am dro ar y beic hefyd.

Fodd bynnag, i lawer ohonom, ni yw’r genhedlaeth gyntaf sydd angen gwneud penderfyniad ymwybodol i gynnwys gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd. Mae gan lai ohonom swyddi corfforol. Mae technoleg a dyfeisiau arbed amser yn dominyddu gartref ac yn y gwaith, y ddau le yr ydym yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser. Mae newidiadau cymdeithas wedi’u dylunio’n anffodus i leihau gweithgarwch corfforol yn ein bywydau.
Canllawiau presennol
Mae’n bwysig cofio er bod y canllawiau yna yn nod neu’n darged personol, bydd unrhyw fath a lefel o weithgarwch corfforol yn fuddiol i chi. Fodd bynnag, yn gyffredinol po fwyaf o amser y byddwch yn ei dreulio yn bod yn actif yn gorfforol, y mwyaf y bydd y manteision i’ch iechyd.
Cydnabyddiaeth: GOV.UK

Bod yn eisteddog
Mae eistedd, gorwedd neu ledorwedd am gyfnodau hir pan fyddwch ar ddihun yn niweidiol hyd yn oed i bobl sy’n gymharol actif am rannau eraill o’r dydd. Mae’n bwysig rhannu cyfnodau hir o fod yn llonydd mor aml â phosibl, trwy wneud o leiaf gweithgarwch corfforol ysgafn, fel ymestyn am gwpl o funudau.

Awgrymiadau da
Dyma rai awgrymiadau:
- Gwnewch yr hyn rydych chi’n ei fwynhau ond byddwch yn barod i roi cynnig ar bethau newydd bob amser.
- Ceisiwch gerdded neu feicio am deithiau byrrach.
- Traciwch eich cynnydd, boed yn nifer y camau neu faint o ddosbarthiadau ymarfer corff rydych chi wedi’u gwneud.
Symudwch fwy ac yn amlach
Symud yn dda
Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i atal a rheoli dros 20 o gyflyrau cronig a chlefydau, sy’n fwy nag unrhyw ymyriad unigol arall. Yn ddiweddarach mewn bywyd, gall helpu i drin a lliniaru symptomau ystod o gyflyrau cronig (e.e. iselder, CVD, clefyd Parkinson).
I bobl sydd â chyflwr cronig neu glefyd eisoes, bydd bod yn fwy actif yn gorfforol yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision meddyliol a chorfforol ac yn helpu i drin y cyflwr/cyflyrau neu glefyd(au) sylfaenol mewn llawer o achosion. Os oes gennych gyflwr cronig ar hyn o bryd, mae’n bwysig iawn eich bod chi bob amser yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau unrhyw newid arfaethedig i’ch gweithgarwch corfforol dyddiol neu wythnosol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn actif pan fo gennych gyflwr iechyd – ewch i’r wefan We Are Undefeatable. (Linc Saesneg yn unig)
Pe bai gweithgarwch corfforol yn gyffur, byddem yn cyfeirio ato fel gwyrth, oherwydd yr afiechydon niferus y gall eu hatal neu helpu i’w trin.
Atgyfeirio i ymarfer corff
Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn darparu mynediad i ymarfer corff wedi’i deilwra a’i oruchwylio i bobl 16+ oed, sy’n anactif lle ceir risg o fod â chyflwr iechyd hirdymor neu gronig, neu fod hynny eisoes yn wir.
Gall gweithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio unigolion i’r cynllun NERS lleol a bydd yn cael asesiad cychwynnol, adolygiad 4 wythnos a rhaglen ymarfer corff wedi’i graddio’n briodol am 16 wythnos. Ar ddiwedd y rhaglen, anogir cyfranogion i symud ymlaen i amrywiaeth o gyfleoedd i fod yn actif yn gorfforol ac maen nhw’n cael eu cyfeirio at raglenni amrywiol yn eu cymunedau lleol.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gan gynnwys darganfod a ydych yn gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Dechreuwch heddiw, mae pob munud yn cyfri!
Ymunwch â’r gymuned
Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn ysbrydoliaeth a ffyrdd o gadw'ch siwrnai i symud.
Dysgu mwy a Chofrestru


