laGall adegau anodd a phrofiadau bywyd anodd fod yn drawmatig.
Gall fod yn dda dechrau drwy gydnabod bod trawma ac adegau anodd yn achosi straen a’u bod y tu hwnt i’ch rheolaeth. Mae hyn yn bwysig, yn arbennig oherwydd bod cysylltiad mor gryf rhwng trawma ac anawsterau pwysau â beio’ch hun a theimlo cywilydd ac euogrwydd.
Mae trawma wedi’i gysylltu ag anawsterau rheoli pwysau, oherwydd ymddygiad sy’n effeithio ar bwysau iach, yn arbennig i oedolion sydd wedi cael profiad o drawma yn eu plentyndod.
Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd, efallai mai’r cam cyntaf yn eich siwrnai pwysau iach yw nodi’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Diffinio trawma a sut y gall effeithio arnoch chi
Mae trawma yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gellir ystyried trawma fel profi adegau anodd, a all fod o ganlyniad i ddigwyddiad bywyd neu sawl digwyddiad sydd wedi bod yn drallodus i chi yn emosiynol neu’n bygwth bywyd. Efallai bod trawma wedi cael effaith barhaol ar eich gallu i weithredu bob dydd, yn ogystal ag ar eich lles corfforol, cymdeithasol, emosiynol a meddyliol.
Trawma yn ystod plentyndod
Mae trawma yn ystod plentyndod yn arwain at fwy o straen a all effeithio ar ddatblygiad meddwl, emosiynol a chymdeithasol. Po fwyaf o straen y mae’r trawma yn ei achosi, y mwyaf o risg sydd o orbwysau a gordewdra, oherwydd bod y system straen yn cael ei ysgogi.
Gall byw â gorbwysau neu ordewdra gynyddu’r risg o bryfocio neu fwlio, a allai fod wedi eich gwneud i deimlo’n anhapus â’ch hun a’ch golwg, a diffyg hunanwerth. Gall hefyd arwain at deimlo’n ynysig oddi wrth eraill o ganlyniad i ddiffyg cyfeillgarwch a chefnogaeth, yn aml o ganlyniad i deimlo na allech ymddiried mewn pobl.
Gall enghreifftiau o drawma ac adegau anodd gynnwys:
- cam-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol
- esgeulustod yn ystod plentyndod
- rhiant neu ofalwr sy’n byw â chamddefnyddio alcohol a/neu gyffuriau
- rhiant neu ofalwr yn byw â salwch meddwl
- bod yn dyst i drais domestig
- tlodi (gall hyn arwain at ofn na fydd digon o fwyd)
- bod yn destun stigma o ganlyniad i bwysau (gwahaniaethu ar sail pwysau, bwlio)
- hiliaeth neu ormes
- trais yn y gymuned, bod yn agored i derfysgaeth neu ryfel
- gwahanu sydyn oddi wrth anwylyd o ganlyniad i farwolaeth neu hunanladdiad
- cael eich magu mewn ardaloedd â llai o fynediad a chyfleoedd i fwyta’n iach, gweithgarwch corfforol, mannau diogel, addysg, ac ati
- diagnosis o gyflyrau iechyd (e.e. canser) neu fod mewn gofal dwys o ganlyniad i sepsis neu Covid-19, er enghraifft.
Enghreifftiau yn unig yw’r rhain - cofiwch fod hyn yn ymwneud â beth effeithiodd arnoch chi a nodi’r camau nesaf sy’n iawn i chi ar yr adeg hon.
Gofynnwch i’ch hun ai’r cam cyntaf ar fy siwrnai pwysau iach yw nodi’r cymorth sydd ei angen arnaf?
Cydnabyddiaeth
Dr Meryl James - Seicolegydd Clinigol, Arweinydd Seicoleg Rheoli Pwysau, BIP Hywel Dda.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Y cysylltiad rhwng trawma a phwysau i barhau â'ch siwrnai.