Neidio i'r prif gynnwy

Da iawn! Rydych chi wedi penderfynu gwneud newidiadau pwysau iach. Rydym yn deall bod cymaint o wybodaeth am golli pwysau a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a pha opsiynau syn addas i chi.

Peidiwch â phoeni; gall llawer o opsiynau colli pwysau weithio i chi a’ch ffordd bresennol o fyw. Mae gwahanol bethau yn gweithio i wahanol bobl.
 

Gwasanaethau cymorth

I chi, efallai mai blaenoriaeth yw nodi a chael cymorth iechyd a lles meddyliol.

Mae'r llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan yn amlinellu cymorth datblygol ar gyfer rheoli pwysau i ddiwallu eich anghenion unigol.

Mae’n cynnwys gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol a gyflenwir gan dîm amlddisgyblaeth, gan gynnwys ymyriadau seicolegol.

Mae hefyd yn cynnwys rhaglenni rheoli pwysau aml-gydran sy’n ymdrin â deiet, gweithgarwch corfforol a sgiliau newid ymddygiad, wedi’u seilio ar wyddoniaeth ymddygiadol. Fel arfer maen nhw’n cynnwys atgyfeirio i ddarpariaeth fasnachol wedi’i seilio ar dystiolaeth, gwasanaethau sylfaenol neu gymunedol pwrpasol wedi’u darparu gan ddeietegwyr, gweithwyr proffesiynol eraill, neu wasanaethau digidol.

Gallai rhai pobl elwa ar gymorth ychwanegol i golli pwysau, e.e. os oes gennych BMI (mynegai màs y corff) dros 30 a/neu gyflyrau iechyd. Mae’r llwybr yn cynnig asesiad arbenigol cyn-llawdriniaeth wedi’i gynnal gan y tîm amlddisgyblaeth bariatrig lefel 4 i nodi addaster person ac anghenion triniaeth.

Gallwch hefyd gysylltu â’ch meddyg teulu a/neu nyrs practis am gymorth a chefnogaeth ychwanegol.
 

Hunangymorth

Gall gweld cefnogaeth gan eraill fod yn bwysig i roi’r hyder i chi yn ystod eich siwrnai colli pwysau.

Efallai byddai cymorth grŵp o bobl sydd ar siwrnai debyg i chi yn ddefnyddiol os yw’n anodd i chi wneud y newidiadau ar eich pen eich hun.

Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i gefnogi’ch siwrnai colli pwysau yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch.

 

Opsiynau hunangymorth eraill

Mae dulliau hunangymorth effeithiol ar gyfer colli pwysau yn cynnwys:

  • cefnogi’ch lles meddyliol
  • gwneud newidiadau i’r bwyd a’r ddiod rydych chi’n ei fwyta a’i yfed
  • bod yn actif yn gorfforol
  • cryfhau cymhelliant a hyder
  • defnyddio offer newid ymddygiad fel gosod nodau, hunan-fonitro, cael cymorth ac arferion positif.

Canfu ein hymchwil fod cynnwys wedi'i bersonoli yn fwy apelgar ac yn helpu i gynnal cymhelliant. Mae’n bwysig bod y newidiadau yn cyd-fynd â’ch bywyd ac y gellir eu cynnal dros amser.

Bydd yr opsiynau hyn yn ychwanegu at y cymorth a’r gefnogaeth a ddarperir gan wasanaethau arbenigol a gellid eu cynnwys fel rhan o’ch nodau pwysau iach yn y dyfodol.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael eich hun yn ôl ar ben ffordd ar ôl baglu i barhau â'ch siwrnai. 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor