Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gosod nodau, a pham mae’n bwysig i chi?

Nod yw rhywbeth yr hoffem ei gyflawni. Gall gosod nodau ein helpu i fod yn benodol am beth yn union yr hoffem ei gyflawni. Gall gosod nodau hefyd ein helpu i nodi beth y mae angen i ni roi’r gorau iddo, dechrau arni, neu wneud yn wahanol.
 

Nodau SMART

Er mwyn helpu i wneud eich nodau yn fwy realistig a chyraeddadwy, mae’n bwysig eu gwneud yn rhai SMART. Mae nod SMART, sy’n acronym Saesneg, yn dilyn y nodweddion canlynol:

  • Penodol (Specific)– Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl.
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod.
     
  • Cyraeddadwy (Achievable)   – Dylai’ch nod fod ychydig allan o’ch cyrraedd, ond nid o'r golwg.
     
  • Perthnasol (Relevant)– Meddyliwch am eich gwerthoedd.
     
  • Amser-gyfyngedig (Timely) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod.

Nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir

Efallai eich bod wedi brwydro gyda'ch pwysau o'r blaen neu'n sylwi bod eich cymhelliant yn eich rhwystro rhag colli pwysau. Meddyliwch sut y gall gosod nodau eich helpu i fynd i’r afael â'ch heriau. Gallai gosod nod eich helpu i addasu eich arferion bwyta neu gysgu’n well. Gall newidiadau bach dros amser eich helpu i fagu mwy o egni, mwy o hyder, a theimlo’n fwy fel eich hun. Cofiwch gall eich nodau gynnwys nodi a chael y cymorth sydd ei angen arnoch i'ch helpu ar eich taith colli pwysau i ddechrau.

Efallai mai nod cyntaf da i chi yw nodi a chael y cymorth iechyd meddwl cywir ar yr adeg hon, a all eich helpu ar eich taith pwysau iach hirdymor.

Pan fyddwch chi wedi gwneud eich nod tymor hir yn nod SMART, rhannwch hwn yn nodau tymor byr cyraeddadwy. Er enghraifft, os mai eich nod SMART tymor hir yw osgoi opsiynau llai iachus pan fyddwch dan straen, efallai mai eich nodau tymor byr fydd (a) cofnodi beth rydych yn ei fwyta a sut rydych yn teimlo (b) ymchwilio i ffyrdd eraill o helpu gyda straen (c) deall eich sbardunau straen.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau?

Efallai eich bod wedi colli pwysau sawl gwaith o’r blaen, ac efallai eich bod yn gwybod llawer am fwyta ond yn teimlo’n ansicr ynghylch y ffordd orau o ddechrau eto. Felly, efallai y byddai'n ddefnyddiol ceisio gosod nodau sy'n cyd-fynd â'ch ffordd bresennol o fyw, oherwydd gall hyn roi'r cyfle gorau i chi lwyddo.

Mae'n hawdd datblygu'r arfer o estyn am fwyd penodol mewn rhai sefyllfaoedd, neu efallai y byddwch yn bwyta fel ateb cyflym i godi'ch hwyliau. Gall gosod nodau eich helpu i reoli eich patrymau bwyta a lefelau gweithgarwch corfforol. 

Baglu a dathlu

Wrth osod eich nodau, mae’n bwysig meddwl am yr heriau a’r rhwystrau y gallwch eu hwynebu. Gall hyn eich helpu i feddwl am ffyrdd i'w goresgyn.

Er enghraifft, os ydych yn teimlo’n flinedig, sut gallech chi ymateb yn wahanol i’ch teimladau? Gallwch roi cynnig ar weithgaredd gyda ffrind i gymell eich gilydd.

Os byddwch yn baglu, peidiwch â digalonni! Mae gosod nodau yn sgil sy'n cymryd amser.

Cofiwch fod yn garedig i’ch hun!

Drwy wneud eich nodau’n fesuradwy, byddwch yn gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd eich nod.

Gall gosod nodau SMART i'ch hun helpu i newid sut rydych yn ymateb i'ch teimladau, a’ch helpu i gyrraedd eich nod.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor