Neidio i'r prif gynnwy

Cael y gefnogaeth iawn i chi

Efallai mai man cychwyn da i chi nawr yw treulio amser yn nodi’r cymorth sydd ei angen arnoch i gefnogi’ch iechyd meddwl a lles ar yr adeg hon.

Mae’r dudalen hon yn eich cyfeirio at ystod o opsiynau cymorth a chefnogaeth. Mae hefyd yn ddefnyddiol edrych ar ba gymorth ychwanegol a gynigir yn eich ardal leol oherwydd fe allai fod gwasanaethau cymorth sy’n canolbwyntio ar drawma ar gael mewn rhai ardaloedd.

Gwasanaethau cymorth a chefnogaeth ar gyfer bwyta emosiynol neu orfwyta mewn pyliau

Os ydych wedi datblygu patrymau bwyta emosiynol neu orfwyta mewn pyliau, fel ffordd o gysuro’ch hun, efallai fod hyn yn eich atal rhag gwneud newidiadau rheoli pwysau iach ac effeithiol.

Bydd cael cymorth a chefnogaeth i oresgyn hyn yn eich helpu i ddysgu strategaethau ymdopi, a allai fod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.

BEAT

Meddyg Teulu - Gallwch ffonio neu weld eich meddyg teulu lleol a fydd yn trafod pa gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch a’ch cyfeirio fel y bo’n briodol.

Gwasanaethau cymorth a chefnogaeth ar gyfer alcohol a/neu gyffuriau

Gall dulliau eraill o hunan-gysuro gynnwys defnyddio alcohol neu gyffuriau a allai fod yn atal colli pwysau’n iach. Gall cael cymorth a chefnogaeth i oresgyn yr ymddygiad hwn eich helpu i nodi a dysgu strategaethau ymdopi, a allai fod yn flaenoriaeth i chi. 

Llinell gymorth cyffuriau ac alcohol

Ffoniwch 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun i DAN ar 81066, mae Dan ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Drinkline – llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl sy’n pryderu ynglŷn ag yfed, ar eu rhan eu hunain neu rywun arall. Ffoniwch 0300 123 1110 (yn ystod yr wythnos 9am–8pm, penwythnosau 11am–4pm).

Alcoholics Anonymous – Mae’r llinell ar agor 24/7 ar 0800 9177 650. Os byddai’n well gennych, gallwch anfon e-bost atyn nhw i: help@aamail.org neu gael sgwrs fyw drwy eu gwefan.

Alcohol Change Cael cymorth nawr

Meddyg Teulu - Mae’ch meddyg teulu yn aml yn fan cychwyn da ar gyfer problemau alcohol / cyffuriau. Bydd yn gallu darparu cyngor cyfrinachol a’ch cyfeirio at gymorth ychwanegol.

Ydych chi’n cael anawsterau iechyd meddwl parhaus oherwydd trawma?

Os yw trawma yn atal eich gallu i weithredu, ac rydych yn teimlo’i fod yn eich rhwystro rhag ymgysylltu â chymorth rheoli pwysau’n iach, efallai mai’ch cam nesaf yw nodi’r cymorth a’r gefnogaeth sy’n gweithio i chi.

Adnoddau hunangymorth a gwasanaethau GIG:

Cwnsela ar gyfer profedigaeth - Os ydych wedi dioddef trawma a/neu yn dioddef trawma oherwydd marwolaeth sydyn, gall cwnsela ar gyfer profedigaeth helpu.

CRUSE - Gallwch eu ffonio am ddim ar0808 808 1677 (Sylwer: nid yw hon yn llinell 24 awr).

Llinell gymorth MIND - Os oes angen gwybodaeth nad yw’n frys am gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl a allai fod ar gael i chi: Ffoniwch 0300 123 3393 neu anfonwch E-bost i info@mind.org.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen llinellau cymorth MIND a gallwch ddod o hyd i’ch canolfan leol a allai gynnig gwasanaeth cwnsela a chefnogaeth am ddim.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Lleol -Cysylltwch â’ch meddyg teulu a all eich cyfeirio at gymorth a chefnogaeth.

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol - Os ydych wedi cael cefnogaeth gan eich tîm lleol o'r blaen, efallai cewch eich cynghori i gysylltu â nhw yn uniongyrchol os oes angen cymorth arnoch. Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg teulu os yw’ch iechyd meddwl wedi gwaethygu, a bydd yn eich atgyfeirio fel y bo’n briodol.

Gwasanaethau Therapïau Seicolegol Lleol - Mae angen i feddyg teulu eich atgyfeirio at y gwasanaeth hwn, felly cysylltwch â’ch meddyg teulu yn gyntaf.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Deall pwysau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor