Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw hunan-fonitro a pham dylwn ei wneud?

Mae hunan-fonitro yn ffordd o fesur ein cynnydd. Trwy wneud cofnod o’n hymddygiad, rydym hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o’r hyn a allai fod yn ein hatal rhag cyrraedd ein nodau. Os nad ydych wedi darllen am osod nodau eto, gallwch ddarllen amdano yma.

Dyddiaduron bwyd

Un o'r mathau mwyaf cyffredin o hunan-fonitro yw drwy ddyddiadur bwyd. Chi sy’n penderfynu beth i'w gynnwys yn eich dyddiadur bwyd. Gallai fod yn ddefnyddiol cynnwys yr hyn y gwnaethoch ei fwyta, pryd, gyda phwy, sut roeddech yn teimlo a maint eich dogn. Gall cadw dyddiadur bwyd eich helpu i fod yn ymwybodol o'ch arferion bwyta, a gall eich helpu i nodi’r newidiadau bach y mae angen i chi eu gwneud o bosibl i'ch helpu i gyrraedd eich nod.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn sylwi dros y 7 diwrnod diwethaf eich bod wedi cael tair bisgïen am 4pm oherwydd bod eisiau bwyd arnoch a’ch bod yn teimlo dan straen. Efallai gallech chi benderfynu cynllunio byrbryd yn gynnar yn y prynhawn sy'n iachach ac yn ddigonol. 

Efallai y bydd yn haws i chi gadw dyddiadur bwyd digidol ar eich ffôn symudol neu liniadur, yn hytrach nag un ffisegol.

Cael y Dyddiadur Pwysau Iach, Byw'n Iach yma:

Hunan-bwyso rheolaidd

Mae pwyso eich hunain yn fath arall o hunan-fonitro a ddefnyddir yn aml ac mae ymchwil yn awgrymu bod pobl sy’n gwneud hyn yn colli mwy o bwysau na’r rhai hynny sydd ddim. 

Gall cadw cofnod rheolaidd o’ch pwysau eich helpu i olrhain  eich cynnydd wrth golli pwysau a’ch helpu i gynnal eich pwysau wedyn.

Mae’n syniad da pwyso eich hun yr un amser o’r dydd bob tro y byddwch chi’n pwyso. Gall cymryd nodyn o’ch pwysau hefyd eich helpu i weld a mesur eich cynnydd.

Does dim angen i chi wneud hyn bob dydd. Gall bo wythnos, bob pythefnos neu hyd yn oed bob mis eich helpu i olrhain eich cynnydd. Gwnewch yr hyn sydd fwyaf cyfforddus i chi. Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn pwyso'ch hun, gallech fesur eich cluniau, eich canol a'ch brest yn lle hynny. Mae lluniau cynnydd yn ffordd arall o fesur eich cynnydd, neu gallwch ddilyn teimlad eich dillad yn lle hynny. Ystyriwch beth sydd orau i chi.

Gall fod yn defnyddiol i gofio y gall fod adegau pan fydd eich siwrnai i golli pwysau yn arafu neu hyd yn oed stopio. Os bydd hyn yn digwydd gall fod yn defnyddiol i adolygu eich cynnydd hyd yn hyn i weld a oes yna unrhyw beth wedi newid a allai fod wedi effeithio ar eich pwysau. Gall hefyd fod yn amser da i ailedrych ar eich nodau colli pwysau ac ystyried a oes angen i chi ddiweddaru’r rhain ar gyfer y cam nesaf yn eich siwrnai.
 

Cofnodion gweithgarwch

Yn yr un modd â dyddiaduron bwyd, gellir defnyddio cofnodion gweithgarwch i gofnodi faint o funudau o weithgarwch corfforol rydych wedi'u cwblhau bob dydd, pa fath o weithgarwch y gwnaethoch ei gwblhau a pha mor anodd ydoedd.

Efallai y byddwch hefyd yn dewis cofnodi eich camau bob dydd wrth gerdded. Gellir gwneud gweithgarwch corfforol drwy gydol y dydd, a gall cofnodi bob tro y byddwch yn actif yn gorfforol fod yn ffordd galonogol o weld faint o gynnydd rydych yn ei wneud, neu gall eich atgoffa i gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol.

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Gosod eich nodau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor