Neidio i'r prif gynnwy

Mae bwyta’n iachach yn golygu bwyta deiet amrywiol a chytbwys, ond mae’n golygu mwy na hyn hefyd. Mae’n ymwneud â chael perthynas gadarnhaol â bwyd a beth mae bwyd yn ei olygu i chi. Mae hyn yn cynnwys pryd, pam a sut rydych yn bwyta, a faint rydych yn mwynhau bwyd hefyd.
 

Y canllaw bwyta’n iach

Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda yn dangos y mathau o fwydydd a diodydd, ac ym mha gyfrannau, sy'n rhan o ddeiet cytbwys iach. Bydd bwyta amrywiaeth o fwydydd o'r gwahanol grwpiau bwyd yn rhoi'r amrywiaeth o faethynnau sydd eu hangen ar eich corff. Gallwch anelu at wneud hyn dros amser, fel yn wythnosol yn hytrach na phob pryd o fwyd.

 

 

 

Mae bwyta’n rheolaidd a pheidio â hepgor prydau bwyd hefyd yn bwysig, er mwyn sicrhau bod signalau chwant bwyd a llawnder eich corff yn gweithio'n gywir. Mae'r signalau hyn yn eich helpu i sylweddoli pryd bydd chwant bwyd arnoch neu pryd byddwch yn llawn, a phryd i roi'r gorau i fwyta, a all eich helpu i gynnal pwysau iachach.

Gwyddom nad yw bwyd ar gyfer egni yn unig, a dylech allu mwynhau a chael perthynas hapus â bwyd hefyd. Gallwch ddefnyddio'r Canllaw Bwyta'n Iach yn unol â'ch trefn arferol ac mewn ffordd sy'n gweddu i'ch dewisiadau.

Os byddai cael rhagor o wybodaeth am sut i ddilyn argymhellion y Canllaw Bwyta’n Iach yn ddefnyddiol i chi, dyma fideo byr:

 

 

Cydnabyddiaeth: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn berthnasol i'r rhan fwyaf o oedolion. Mae'n bosibl y bydd angen i chi siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol i gael cyngor os oes gennych anghenion deietegol neu feddygol arbennig.
 

Canllawiau bwyta’n iach eraill

Mae fersiynau eraill o'r Canllaw Bwyta'n Iach ar gael.  Efallai y bydd un o'r fersiynau hyn yn dangos mwy o'r bwydydd rydych yn eu bwyta fel arfer. Yr un yw negeseuon ac argymhellion cyffredinol y Canllaw Bwyta'n Iach o hyd. Mae fersiynau eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Affricanaidd a Charibïaidd
  • De Asiaidd
  • Llysieuol
  • Feganaidd

 

Negeseuon allweddol

Y prif negeseuon i’w cofio o’r Canllaw Bwyta’n Iach yw:

  • Ceisiwch fwyta o leiaf pum dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd.
  • Dylech seilio eich prydau bwyd ar datws, bara, reis, pasta, chapati, roti, iam, plantan neu garbohydradau startshlyd eraill; gan ddewis fersiynau grawn cyflawn lle bo modd.
  • Dylech gael rhai cynhyrchion llaeth neu gynhyrchion llaeth amgen (fel diodydd soia); ewch am ddewisiadau sy'n cynnwys llai o fraster a siwgr pan fydd hynny'n bosibl.
  • Bwytewch rywfaint o ffa, codlysiau, ffacbys, dal, pysgod, wyau, briwgig di-gig, soia, cig heb lawer o fraster, a phroteinau eraill.
  • Ceisiwch gynnwys dau ddogn o bysgod cynaliadwy bob wythnos, a dylai un ohonyn nhw fod yn olewog.
  • Dewiswch olewau a phastau annirlawn a bwytewch ychydig bach ohonynt.
  • Yfwch 6-8 cwpan/gwydraid o hylif y dydd. Dewiswch opsiynau â lefelau siwgr is pan fydd hynny'n bosibl.
  • Os byddwch yn bwyta bwydydd ac yn yfed diodydd sy'n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr, ceisiwch eu bwyta'n llai aml ac ychydig bach ohonynt.
     
Edrychwch ar eich troli bwyd wythnosol a meddyliwch am ffyrdd o sicrhau ei fod yn nes at y cydbwysedd a argymhellir yn y Canllaw Bwyta'n Iach. 
Cydnabyddiaeth

Fideo y Canllaw Bwyta’n Iach: Deieteg Caerdydd a’r Fro - Gwybodaeth am fwyta’n Iach – Sgiliau Maeth am Oes

 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor