Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n amser meddwl am eich nodau eich hun. Os nad ydych wedi edrych ar dudalennau Gosod nodau a Chymhelliant Pwysau Iach Chithau Iach eisoes, efallai yr hoffech chi wneud hynny yn gyntaf i’ch helpu i osod eich nodau. 

Efallai eich bod wedi colli pwysau o’r blaen ac eisiau cadw’r pwysau i ffwrdd y tro hwn. Efallai y byddwch chi eisiau gwneud newidiadau iach i’ch helpu i deimlo’n well, neu i wneud bywyd yn haws. Rydym yn argymell canolbwyntio ar 1, 2, neu 3 nod. Atebwch y cwestiynau isod yn fan cychwyn – Cofiwch ystyried y gwerthoedd yr ydych wedi’u nodi wrth wneud!

Fy nod SMART:

  • Penodol (Specific) – Gwnewch eich nod mor benodol â phosibl. Beth yn union ydych chi eisiau ei gyflawni?
     
  • Mesuradwy (Measurable) – Nodwch ffordd o fesur eich cynnydd wrth weithio tuag at eich nod. Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi ei gyrraedd?
     
  • Cyraeddadwy (Achievable) – Dylai’ch nod fod ychydig allan o gyrraedd ond nid allan o’r golwg. Ydy’ch nod yn heriol ond yn bosibl ei gyflawni?
     
  • Perthnasol (Relevant) – Meddyliwch am eich gwerthoedd. Ydy hyn yn rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd?
     
  • Amser-gyfyngedig (Time-bound) – Rhowch amser erbyn pryd yr hoffech chi gyrraedd eich nod. Erbyn pryd ydych chi eisiau ei gyrraedd?

Fy nodau tymor byr

Paratowch eich hun i lwyddo gyda nodau cyraeddadwy sy’n cyd-fynd yn hawdd â'ch ffordd o fyw. Efallai bydd y rhain yn helpu i roi hwb i’ch hyder a'ch cymell i barhau. Allech chi gyfnewid pethau iachach am rai o’ch hoff fwydydd a diodydd? Allech chi geisio gwneud mwy o deithio llesol, gan adael y car am deithiau byr? Neu efallai ychwanegu gweithgaredd newydd yn lle gwylio’r teledu.

Ceisiwch eu gwneud mor benodol â phosibl. Er enghraifft:

  • Byddaf yn yfed 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd. 
  • Byddaf yn cerdded y ci ddwywaith y dydd am 30 munud.
  • Byddaf yn cael un pryd tecawê yn unig y mis.

Beth allai fy rhwystro?

Ystyriwch eich nod tymor hir a’r camau byrrach yr ydych newydd eu hysgrifennu. Treuliwch ychydig o amser yn meddwl am yr hyn a allai eich rhwystro.

Paratowch eich hun i lwyddo

Ystyriwch beth allwch chi ei wneud i’ch helpu gyda’r rhwystrau hynny; a sut y gallwch chi gynnwys y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Os mai’ch nod yw coginio cinio iach gartref yn ystod yr wythnos, efallai y bydd diffyg amser yn eich rhwystro oherwydd bod yn rhaid i chi weithio’n hwyr neu fod gennych chi ymrwymiadau teuluol. Efallai yr hoffech chi gynllunio’r hyn yr ydych chi eisiau ei fwyta a’r amser sydd ei angen arnoch i’w baratoi. Efallai y byddwch chi hefyd yn ystyried coginio mewn swmp ar gyfer sawl diwrnod.

Gall helpu i ysgrifennu hyn: 

Os bydd ____________________________ yn digwydd,
Rwy’n bwriadu ________________________________.

Mae pob un ohonom yn cael diwrnodau nad ydyn nhw’n mynd i gynllun, ac mae’n hawdd teimlo fel rhoi’r gorau iddi. Sut byddwch chi’n ymdrin â’r dyddiau hynny pan nad ydych chi’n teimlo fel bod yn actif, wedi cael diwrnod gwael, ac eisiau bwyta bwyd cysur? Efallai y gallech chi ffonio ffrind am ychydig o gymhelliant a chefnogaeth. Efallai y gallech chi wahodd ffrind i ymuno â chi i fynd am dro neu wrando ar gerddoriaeth i godi’ch hwyliau.

 

Adolygu ac adnewyddu!

Mae’n bwysig adolygu eich nodau’n rheolaidd, p’un ai’n wythnosol neu’n fisol, gan ddibynnu ar eich nodau. Gofynnwch i’ch hun, ydw i’n gwneud cynnydd? Cofiwch longyfarch eich hun am y llwyddiannau bach. Mae pob cam bach i’r cyfeiriad cywir yn dod â chi’n agosach at eich nod. Os nad ydych chi’n gwneud cynnydd, pam ddim? Oes rhywbeth y gallwch chi ei newid i wneud eich nod yn fwy realistig neu bosibl i chi ei gyflawni? Oes modd i chi wneud y nod yn fwy ysgogol i chi?

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Cynnal pwysau i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor