Neidio i'r prif gynnwy

yPam mae hi mor hawdd magu pwysau?

Mae llawer o resymau dros fagu pwysau ond yn aml mae’n gyfuniad o ffactorau. Gall y byd yr ydym yn byw ynddo a’n profiadau ei gwneud hi’n anoddach i gynnal pwysau iach.

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, mae mwy a mwy o bobl yn byw gyda gorbwysau neu gordewdra. Mae hyn yn amrywio o wlad i wlad ac yn anffodus, mae'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia ymysg y rhai yr effeithir arnynt fwyaf.

Cytunir yn gyffredinol bod y newidiadau hyn wedi digwydd oherwydd bod y byd yr ydym yn byw ynddo wedi newid cymaint dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn teithio mewn car, mae tuedd i  ni fod mewn swyddi llai egnïol, sy'n golygu y gall ein bywydau fod yn llai egnïol. Hefyd mae mwy o amrywiaeth o fwyd a diod ar gael i ni bob amser o'r dydd, ym mhob man. Mae'r bwydydd hyn yn aml wedi’u prosesu ac yn cynnwys lefelau uchel o fraster a siwgr sy'n golygu ein bod yn bwyta mwy o fwyd a mwy o egni. Mae'r holl ffactorau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach cynnal pwysau iach.

 

Cydnabyddiaeth: Cancer Research UK

Gall profiadau bywyd effeithio ar ein pwysau ac efallai eich bod wedi byw trwy gyfnodau anodd a gofidus yn y gorffennol. Efallai eich bod wedi ei chael hi’n anodd rheoli eich pwysau ers eich plentyndod.

Gall bywyd bob dydd fod yn anodd i chi weithiau, ac efallai fod gennych heriau i ymdrin â nhw, er enghraifft cyfrifoldebau gofalu, problemau iechyd neu deulu. Efallai eich bod yn teimlo bod bwyd a diod yn eich helpu i deimlo’n well pan fo bywyd yn anodd. Gallai hyn olygu eich bod yn bwyta i gael cysur neu’n bwyta llawer mewn cyfnod byr pan fo bywyd yn straen. Er eich bod yn dymuno gwneud newidiadau i wella’ch iechyd, efallai nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud hyn ar ben eich heriau dyddiol. Efallai eich bod yn ei chael yn anodd bod yn egnïol oherwydd problemau iechyd.

Golyga hyn efallai eich bod yn bwyta ychydig neu lawer mwy nag sydd ei angen weithiau, ac efallai nad ydych chi’n egnïol yn rheolaidd. Pan fyddwch yn bwyta mwy o fwyd ac yn llai egnïol, bydd yr egni ychwanegol nad yw’n cael ei ddefnyddio yn cael ei storio, felly rydych yn magu pwysau.

 

Gall ffactorau unigol eraill effeithio ar eich pwysau hefyd

Gallai’r rhain gynnwys:
•    Iechyd meddwl, trawma.
•    Pa fwyd a faint o fwyd sy’n cael ei fwyta, y rhesymau pam yr ydym yn bwyta.
•    Geneteg a hanes teulu.
•    Hormonau, cyflyrau iechyd eraill, meddyginiaethau.
•    Ymdrechion blaenorol i golli pwysau.
•    Lefelau gweithgarwch corfforol, yr amser a dreulir yn segur. 
•    Diffyg cwsg.
•    Incwm.
•    Lle rydych yn byw ac yn gweithio. 
•    Eich cymuned, amgylcheddau cymdeithasol, mynediad at wasanaethau. 

 

Gwneud y newidiadau sy’n iawn i chi

Gall gosod nodau, gwneud newidiadau y gellir eu cyflawni a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch eich helpu i gynnal pwysau iach a’ch helpu i deimlo’n iachach ac yn well ynddoch eich hun. Gall bywyd fod yn heriol, felly gall dewis camau bychain sy’n gweithio i chi eich helpu i deimlo’n hyderus gyda mwy o reolaeth dros eich teimladau a’ch pwysau.

Efallai y byddwch yn canfod mai ffordd dda o gychwyn eich siwrnai yw gweithio ar eich lles fel y byddwch yn barod i wneud y newidiadau iawn er mwyn i chi fod yn unigolyn iach.

Dyma rai o'r rhesymau unigol am magu pwysau.
 

 

 

Parhau â'ch siwrnai

Ewch i'r dudalen nesaf sef Rheoli pwysau iach hirdymor i barhau â'ch siwrnai.

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor