âAdolygwch eich nodau a’ch gwerthoedd
Edrychwch ar y nodau SMART y gwnaethoch eu gosod i’ch hun. Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes edrychwch ar y tudalennau gosod nodau ac unrhyw nodiadau yr ydych wedi’u gwneud. Cofiwch pam y cychwynnoch chi'r siwrnai hon. Efallai eich bod eisiau teimlo’n iachach ac osgoi problemau iechyd, neu fod gennych chi ddigwyddiad, swydd newydd, neu bartner newydd sydd wedi eich cymell i wneud newidiadau. Gall teimlo bod popeth dan reolaeth a’ch bod yn gallu cyflawni hyn eich grymuso’n sylweddol.
A yw eich nodau yn dal i fod yn berthnasol a realistig? Os ydyn nhw, daliwch ati!
Os yw eich nodau’n teimlo allan o’ch cyrraedd yn sylweddol, gallwch wneud rhai newidiadau. Er enghraifft, nid oes rhaid cyflawni eich gweithgarwch i gyd ar yr un pryd. Gallai fod yn fwy buddiol ei rannu’n gyfnodau llai yn ystod y dydd.
Gofynnwch i’ch hun beth sy’n eich rhwystro
Mae’n arferol wynebu rhwystrau ar y ffordd pan fyddwn yn newid ein ffordd o fyw. Ceisiwch dreulio amser yn myfyrio yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to neu farnu eich hunan yn ormodol.
Os ydych yn hunan-fonitro drwy ddefnyddio dyddiadur bwyd neu weithgarwch, gallwch ddefnyddio hyn i nodi beth sy’n eich rhwystro. Isod ceir awgrymiadau a allai fod o gymorth o ran rhwystrau sy’n gyffredin pan fyddwch yn newid ffordd o fyw.
‘Gall trafferthion a straen dyddiol ei gwneud hi’n anodd ymrwymo’
Gall heriau dyddiol, er enghraifft problemau teuluol, cyfrifoldebau gofalu a phroblemau iechyd ei gwneud hi’n anodd ymrwymo i newidiadau i ffordd o fyw. Meddyliwch yn ôl a chofiwch pam y cychwynnoch chi ar y siwrnai hon. Rydych chi eisiau gwella eich iechyd a'ch hyder a gwneud eich bywyd yn haws yn y tymor hir.
‘Mae ofn methu arna i’
Gall newid pethau deimlo’n frawychus, ac mae hwn yn deimlad cyffredin. Bydd aildrefnu newidiadau a’u gwneud yn llai er mwyn eu gwneud yn addas i’ch bywyd bob dydd yn llawer mwy realistig. Efallai y gwelwch chi fod ysgrifennu’r nodau llai hyn a’u dileu wedyn ar ôl eu cyflawni yn eich helpu i weld eich cynnydd.
Efallai bydd adegau pan nad ydych yn teimlo digon o gymhelliant. Gallai nodi a cheisio cymorth i helpu i ymdrin â materion ehangach yr ydych o bosib yn eu hwynebu yn eich bywyd, eich helpu i deimlo mwy o gymhelliant. Yn aml pan fo llawer yn mynd ymlaen yn eich bywyd, gall mynd i’r afael â materion allweddol helpu rhannau eraill o’ch bywyd a rhoi hyder i chi wneud newidiadau.
Byddwch yn garedig i’ch hun
Cofiwch y dylai’r newidiadau yr ydych chi’n eu gwneud aros gyda chi am oes, felly dylen nhw fod yn realistig ac yn bleserus i chi eu cyflawni.
Cofiwch geisio am newid hirdymor, felly peidiwch â barnu eich hunan yn ormodol pan nad yw pethau’n mynd fel y dylen nhw. Mae cefnogaeth yn bwysig i’ch helpu i gyflawni eich nodau, felly cliciwch yma i weld lle gallwch gael cymorth.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Hunan-fonitro i barhau â'ch siwrnai.