Fel arfer, rydym yn llawn cymhelliant pan fydd angen i ni newid rhywbeth. Efallai eich bod wedi colli pwysau o'r blaen ac eisoes yn gwybod sut i wneud newidiadau iach, efallai nad oes gennych arferiadau rheolaidd, a gall hyn ei gwneud yn anoddach cadw'r newidiadau iach hyn. Pan fyddwn wedi ein cymell byddwn yn ei chael hi’n haws i wneud newidiadau, e.e. gwneud y gweithgarwch yr oeddem wedi’i drefnu, p’un ai mynd am dro, nofio neu goginio prydau bwyd cartref. Fodd bynnag, gall fod yn anodd cynnal cymhelliant yn enwedig wrth wynebu heriau o ddydd i ddydd.
Beth sy'n eich cymell chi?
Efallai eich bod yn poeni bod eich pwysau'n effeithio ar eich iechyd ac yn dymuno gwneud newidiadau i helpu i atal y cynnydd mewn pwysau neu i golli pwysau mewn ffordd iach. Gadewch i ni gymryd eiliad i nodi beth sy'n eich cymell i fod eisiau gwneud newidiadau iach, e.e. cynllunio trefn arferol reolaidd bob dydd, cynyddu gweithgarwch corfforol neu fwyta'n iachach.
Efallai mai eich meddyliau cyntaf yw 'Rwyf eisiau bod yn iachach, yn fwy heini a cholli pwysau’ neu 'oherwydd rwyf eisiau edrych a theimlo'n well'. Yr allwedd yma yw treiddio’n ddyfnach. Gofynnwch i’ch hun, 'pam?'. Pam ydych chi eisiau bod yn fwy actif neu eisiau deiet iachach? Ystyriwch beth fyddwch chi'n gwneud mwy ohono ar ôl cyflawni'r pethau hynny. Gall cynnal cymhelliant fod yn anodd ond gall torri nodau yn ddarnau llai o dasgau rhwydd a dathlu cyflawniadau ar hyd y ffordd helpu i gynyddu eich hyder a gwella eich hunangred!
Eich gwerthoedd
Edrychwch ar yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu; dyma sy'n bwysig i chi – y rhain yw eich gwerthoedd. Gallai cael cefnogaeth eich helpu, a gall siarad â ffrindiau a theulu i weld a oes ganddyn nhw unrhyw werthoedd neu nodau tebyg fod yn syniad gwych ar gyfer anogaeth a chefnogaeth. Gall cadw eich gwerthoedd mewn cof drwyddi draw eich helpu i barhau i ganolbwyntio a chynnal cymhelliant.
Pan ddaw ymddygiadau newydd yn arferiadau
Gallai newidiadau hirdymor gynnwys bwyta deiet iachach a symud mwy, a golyga hyn newid o hen ymddygiad i ymddygiad newydd. Pan fyddwn yn arfer ymddygiad newydd yn ddigon aml, mae’n dod yn arferiad. Pan ffurfir arferiad, daw yn haws, a gallwn ddibynnu llai ar gymhelliant. I wneud hyn mae angen i ni fabwysiadu’r ymddygiadau newydd hyn yn rhan o’n trefn ddyddiol. E.e. trefnu amseroedd penodol ar gyfer gweithgarwch a chreu cynllun ar gyfer yr wythnos i ddod.
Efallai bydd cyfnodau pan fyddwch yn troi yn ôl at hen ymddygiad, er enghraifft defnyddio bwyd i wella’ch hwyliau neu i’ch helpu i deimlo’n well. Gall hyn effeithio ar eich cynnydd felly mae nodi a chael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnoch yn gam pwysig ar eich siwrnai er mwyn cynnal cymhelliant.
Parhau â'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Gosod nodau i barhau â'ch siwrnai.