Cael y cymorth iawn i chi
Efallai mai man cychwyn da i chi nawr yw treulio amser yn nodi’r cymorth sydd ei angen arnoch i gefnogi’ch iechyd meddwl a lles ar yr adeg hon.
Meddyliwch am eich sgiliau ymdopi presennol a gofynnwch i’ch hun:
- Beth sy’n fy helpu?
- Beth nad yw'n fy helpu?
- Beth sydd ei angen arnaf nawr?
Meddyliwch am y rhwydweithiau cefnogaeth sydd gennych eisoes a gofynnwch i’ch hun:
- Pwy alla i siarad â nhw ac ymddiried ynddyn nhw a fyddai’n fy helpu?
- Pwy na fyddai’n fy helpu?
Gall hyn eich helpu i ganolbwyntio ar beth rydych ei angen nawr.
Oes angen cymorth arnoch nawr?
Os ydych yn poeni’n arbennig am eich iechyd meddwl chi neu rywun arall ac mae angen cymorth a chefnogaeth ar unwaith, ffoniwch:
Y Gwasanaethau Brys
- Ffoniwch 999
- Ffoniwch eich meddyg teulu a/neu 111 y gwasanaeth y tu allan i oriau
- Neu ewch i’ch adran Damweiniau ac Achosion Brys yn eich ysbyty lleol
Y Samariaid
Ffoniwch 116123 – ar gael unrhyw amser o’r dydd neu’r nos, ni waeth beth rydych yn mynd trwyddo, gallwch ein ffonio unrhyw bryd o unrhyw ffôn AM DDIM.
Am gymorth brys ynglŷn â Cham-drin Domestig
- Ffoniwch y llinell gymorth 24 awr am ddim Byw Heb Ofn ar 08088010800
- Anfonwch neges destun i linell gymorth 24 awr am ddim Byw Heb Ofn ar 07860077333
- Anfonwch e-bost i info@livefearfreehelpline.wales
Llinell gymorth cyffuriau ac alcohol
Ffoniwch 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun i DAN ar 81066, mae Dan 24/7 ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Cofiwch, efallai mai’r cam nesaf yn eich siwrnai pwysau iach yw nodi a chael gafael ar y cymorth sy’n iawn i chi ar yr adeg iawn.
Parhau â’'ch siwrnai
Ewch i'r dudalen nesaf sef Cyfeirio i wasanaethau cymorth a chefnogaeth i barhau â’ch siwrnai.